Coronafeirws (COVID19) - Treth y cyngor a threthi busnes
Mae cymorth ariannol yn cael ei roi i fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan gamau'r cyfnod atal byr.
Rydym yn aros am ganllawiau terfynol gan Lywodraeth Cymru o ran manylion y cynlluniau a fydd yn cael eu rhoi ar waith. Lle bo modd, bydd taliadau'n cael eu gwneud yn awtomatig. Gofynnir i fusnesau Powys beidio â chysylltu â'r cyngor sir ar hyn o bryd ond i roi amser i ni weithio ar y trefniadau. Bydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bydd ar gael.
10 Gorffennaf 2020
Canllawiau newydd ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch
https://llyw.cymru/busnesau-twristiaeth-lletygarwch-canllawiau-i-ailagor-yn-raddol-html
https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance
24 Mawrth 2020
Threthi busnes : Er ein bod yn gweithio gyda'n cyflenwyr meddalwedd ynghylch y cyhoeddiad diweddar am y gostyngiadau Ardrethi Annomestig, rydym wedi gohirio'r casgliad Debyd Uniongyrchol o Randaliadau Ebrill 2020 er mwyn sicrhau bod unrhyw ostyngiad uwch yn cael ei roi.
20 Mawrth 2020
Newidiadau i amseroedd agor llinellau ffôn Treth y cyngor a threthi busnes a Dyfarniadau.
Sylwch o 23 Mawrth bydd y gwasanaeth treth y cyngor / trethi busnes a dyfarniadau ar gael i gymryd galwadau rhwng 9 am tan 1pm yn unig.