Coronafeirws (COVID19) - Cyllid
20 Mawrth 2020
Neges bwysig i gyflenwyr: Mae'r digwyddiadau cyfredol yn cael effaith arnom i gyd ac mae'r Cyngor am wneud yn siwr y gellir cynnal taliadau i'n cyflenwyr. Ar hyn o bryd, mae staff y cyngor yn gweithio o gartref ac mae gennym eisoes broses yn ei lle i gyflwyno anfonebau trwy e-bost. Gellir prosesu anfonebau sy'n cael eu cyflwyno fel hyn llawer cyflymach na dogfennau papur drwy'r post ac nid ydynt yn ddibynnol ar leoliad ein staff.
Felly gofynnwn i chi gyflwyno eich anfonebau wedi'u hatodi i neges e-bost wedi'i hanfon i'r cyfeiriad e-bost canlynol:- invoices@powys.gov.uk.
Gellir cyflwyno anfonebau fel dogfen pdf, neu fel delwedd wedi'i sganio. Os oes angen cyngor arnoch am ddiwyg y dogfennau, cysylltwch ag invoices@powys.gov.uk.
Wrth gwrs, bydd anfonebau papur sy'n cael eu derbyn drwy'r post yn parhau i gael eu prosesu, ond mae'n annatod y bydd hyn yn cymryd yn hirach.