Coronafeirws (COVID19) - Cynllunio
Noder y gall y diweddariad hwn fod yn destun arolwg ychwanegol pellach o ystyried deddfwriaeth sy'n newid neu oherwydd capasiti adrannol.
Diweddariad 3 Awst 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi rhoi cynlluniau dilyniant busnes ar waith er mwyn i wasanaethau ganolbwyntio ar weithgareddau gofal cymdeithasol a gweithgareddau busnes hanfodol. Cafodd hyn ei awdurdodi gan grŵp strategol y cyngor sy'n golygu y bydd gweithgaredd nad yw'n hanfodol yn cael ei bwyllo er mwyn cefnogi gofal cymdeithasol a gwasanaethau rheng flaen hanfodol mewn ymateb i'r argyfwng Coronafeirws (Covid-19).
Rydym wedi gorfod addasu ein harferion gweithio a'n gwasanaeth a heb fawr o gyfle i fynd i'r swyddfeydd, dylech barhau i anfon unrhyw ohebiaeth yn electronig.
Noder y:
Byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio (a dderbynnir yn electronig), ond dim ond lle gallwn wneud y gofynion angenrheidiol. Rhaid cyflwyno cwynion gorfodaeth ar y ffurflen sydd ar dudalen gorfodaeth cynllunio ar y we, a byddant yn cael eu cofrestru wrth eu derbyn. Yn dibynnu ar gapasiti, byddwn yn ymchwilio i'r rhai hynny a ystyrir i fod yn hanfodol ac yn dibynnu ar asesiad risg o ymweliad â'r safle.
- Bydd cyngor ar gais cyn-cynllunio yn cael ei brosesu fel arfer ond nid ydym yn gallu cynnig cyfarfod ar safle na mewn swyddfa ar hyn o bryd. Yn hytrach na hynny, gallwn gynnig cyfarfod dros y ffôn/skype yn uniongyrchol gyda Swyddog Cynllunio petaech yn dymuno'r gwasanaeth hwn (+£30 yn ychwanegol at y taliadau safonol o ran cais cyn-cynllunio).
Rydym yn gofyn i chi felly gyflwyno unrhyw beth yn electronig lle bo hynny'n bosibl:
- Cyflwyno ceisiadau trwy'r porth cynllunio
- Ymholiadau cyffredinol at planning.services@powys.gov.uk
- Gellir gwneud taliadau dros y ffôn ar: 01597 827161
Mae ceisiadau cynllunio dilys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor a gallwch eu gweld ar y ddolen ganlynol: - https://pa.powys.gov.uk/online-applications/?lang=CY
Trwy glicio ar 'chwilio', mae opsiwn i chi gynnal chwiliad syml ac uwch gyda'r dewis o fwrw golwg dros restr wythnosol / fisol o geisiadau a dderbyniwyd. Gyda'r opsiwn dewis uwch gallwch nodi ceisiadau yn ôl y math, yr asiant neu'r rhai a dderbyniwyd o fewn ward neu blwyf neu gyngor cymuned penodol.
Os cewch unrhyw anawsterau neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y porth cyhoeddus, mae croeso i chi gysylltu â planning.services@powys.gov.uk am gymorth.