Coronavirus (COVID-19) - Twyll a Sgamiau
Byddwch yn effro i negeseuon e-bost gwe-rwydo, gwefannau ffug a llawer o sgamiau eraill wrth i droseddwyr gamfanteisio ar ofnau pobl am y Coronafeirws. Mae cynnydd hefyd mewn gwe-rwydo trwy negeseuon testun.
Gwiriwch fod y neges yn gwneud synnwyr
Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i'r ramadeg a'r sillafu, ond hefyd ystyr y neges ei hun - ydy'r hyn mae hi'n gofyn i chi ei wneud yn ymddangos yn synhwyrol? Fyddai'r unigolyn hwnnw wedi gofyn i chi wneud hynny yn y ffordd benodol yna?
Gwiriwch fod y neges yn ddilys
Cofiwch gadarnhau bod neges yn ddilys trwy ffonio'r unigolyn neu'r sefydliad dan sylw. Osgowch defnyddio unrhyw rifau sydd yn yr ohebiaeth - gwiriwch y rhain ar wahân.
Dolenni ac atodiadau
Peidiwch byth â chlicio ar ddolenni ac atodiadau, oni bai eich bod 100% yn sicr eu bod y ddilys. Mae yna ryw ffordd arall o wirio bron bob tro (e.e. trwy ddefnyddio'ch porwr gwe).
Arhoswch i feddwl cyn ateb unrhyw ohebiaeth
Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i negeseuon e-bost ond hefyd i alwadau/negeseuon testun/negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Bydd troseddwyr yn ceisio rhoi pwysau arnoch mewn rhyw ffordd yn y gobaith y byddwch yn gwneud camgymeriad, felly sefwch yn ôl. Peidiwch â gadael iddyn nhw eith rhuthro chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael persbectif eglur ar y cyfan.
Ffynonellau gwybodaeth
Peidiwch â defnyddio unrhyw ffynonellau oni bai eu bod yn swyddogol (e.e. gwefan y Llywodraeth) i gael gwybodaeth am y Coronafeirws
Byddwch yn wyliadwrus a gochelwch tudalennau mewngofnodi/URL ffug
Wrth fynd i dudalen/mewngofnodi, gwiriwch yr URL yn y bar cyfeiriad, i sicrhau eich bod ar y dudalen gywir, a bod popeth yn gweithio fel y dylai. I dawelu eich meddwl ymhellach, gallwch osod nod llyfr ar wefannau pwysig, a defnyddio'r nod llyfr yn unig i gyrraedd y gwefannau hynny.
Rhagor o wybodaeth
Rhyddhaodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) erthygl wych yn crynhoi'r sefyllfa uchod, gallwch ddod o hyd i hyn ar eu gwefan yn https://www.ncsc.gov.uk/news/cyber-experts-step-criminals-exploit-coronavirus
Rhoi gwybod os ydych wedi dioddef seiberdroseddau
Rhowch wybod i Action Fraud, sef porth genedlaethol y DU ar gyfer adrodd ar seiberdroseddau. Gallwch eu hysbysu dros y ffôn (0300 123 2040) neu ar eu gwefan yn https://www.actionfraud.police.uk/
Mae adrodd yn helpu i adeiladu deallusrwydd ar gyfer gorfodi'r gyfraith, sy'n gallu cynorthwyo ymchwiliadau yn ogystal ag ymgyrchoedd gwybodaethol i atal eraill rhag dod yn ddioddefwyr.
Mae Action Fraud yn darparu llinell adrodd sy'n fyw 24/7 i sefydliadau adrodd am seiberdroseddau! Mae manylion pellach i'w cael yn https://www.actionfraud.police.uk/campaign/24-7-live-cyber-reporting-for-businesses
Mathau eraill o sgamiau
Mae sgamiau wedi'u nodi ar hyd a lled y DU, gan gynnwys diweddariadau camarweiniol o'r newyddion, yswiriant ffug, negeseuon testun a chynlluniau ad-dalu treth ffug, gwerthu moddion gwyrthiol, brechlynnau a phrofion cartref. Mae tebygolrwydd uwch o wasanaethau glanhau ffug a gweithwyr iechyd ffug yn mynd o ddrws i ddrws.
Cofiwch mae hi bob amser yn well i'ch diogelu eich hun ac eraill. Gwiriwch y sefyllfa gyda chyfaill neu berthynas os ydych yn ansicr.
- Peidiwch â thybio bod pawb yn ddilys. Mae'n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Os yw rhywun yn ceisio rhoi pwysau arnoch i dderbyn gwasanaeth, yna mae'n annhebygol eu bod yn ddilys.
- Peidiwch â chaniatáu i rywun eich rhuthro i wneud penderfyniad. Os yw'n teimlo'n rhy dda I fod yn wir, yn fwy na thebyg dyna yn hollol yw'r sefyllfa!
- Peidiwch â phrynu nwyddau neu wasanaethau ond gan werthwyr y mae pobl yn ymddiried ynddyn nhw, a meddyliwch cyn rhoi arian neu wybodaeth bersonol.
- Gwiriwch hunaniaeth pobl i wybod pwy ydynt, a pheidiwch, da chi, â thalu o flaen llaw.
Cysylltwch â'r Safonau Masnach os oes gennych unrhyw amheuaeth neu bryder.
Dolenni:
Diweddariadau Action Fraud.
Mae Action Fraud wrthi'n gyson yn rhyddhau rhybuddion sy'n rhoi manylion yr achosion o dwyll a sgâm mwyaf cyffredin sy'n ymwneud â COVID-19, a'r camau y gallwch eu cymryd i'ch gwarchod eich hun. https://www.actionfraud.police.uk
Fideos Cyber Griffin
Mae Uned Seiberdrosedd yr Heddlu Metropolitan wedi creu fideo gwych ar sut i aros yn ddiogel tra'n gweithio gartref. Gallwch ddod o hyd iddo ar https://www.youtube.com/playlist?list=PLoWZUquVJo4SLWKD5A96znBNi23UzOjiG
Take Five
Ymgyrch gan UK Finance yw Take Five a'i nod yw addysgu pobl ynglŷn â sut i'w hamddiffyn eu hunain ac eraill rhag twyll. Mae yna lawer o ganllawiau a deunyddiau i'w gweld yn https://takefive-stopfraud.org.uk/toolkit/