Covid-19: Camau gorfodi yn erbyn tri busnes

6 Ebrill 2020
Mae'r Cyngor Sir wedi datgan bod camau gorfodi wedi'u cymryd yn erbyn tri busnes ym Mhowys ar ôl iddynt fethu cydymffurfio â chyfyngiadau Covid-19 a gwrthod cau.
Bellach mae Cyngor Sir Powys yn atgoffa busnesau i ddilyn canllawiau cenedlaethol ac i gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 neu byddant yn wynebu camau gorfodi.
Mis diwethaf cynyddodd Llywodraeth y DU y mesurau i atal y coronafeirws ac i achub bywydau drwy orchymyn i gau gwahanol fusnesau a lleoliadau a oedd yn cynnwys tafarndai a gwestai.
Er gwaethaf y mesurau diweddaraf, mae busnesau wedi parhau i fasnachu felly mae ystod o gamau gorfodi wedi'u rhoi ar waith yn cynnwys cyhoeddi hysbysiadau gwahardd a hysbysiadau cosb benodedig.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, yr Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Datblygu Economaidd, Tai a Rheoleiddio: "Mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau ledled y Sir yn cydymffurfio â'r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU fis diwethaf a hoffwn ddiolch iddynt am hyn.
"Mae'r mesurau yn eu lle am resymau da - i arbed bywydau. Mae'n siomedig iawn bod rhai busnesau am beryglu bywydau pobl Powys trwy aros ar agor.
"Nid oedd gennym unrhyw ddewis ond i gymryd camau gorfodi yn erbyn y tri safle hyn ar ôl iddynt barhau i anwybyddu'r mesurau.
"Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau'r Sir lle y gallwn yn ystod y cyfnod hwn na welwyd mo'i debyg o'r blaen a byddwn yn cymryd y camau priodol yn erbyn y rhai sy'n diystyru'r mesurau hanfodol hyn ac yn rhoi bywydau pobl mewn perygl."
I gael y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am y coronafeirws (COVID-19) ewch i www.powys.gov.uk/coronavirus