Dim dirwyon i aelodau'r llyfrgell

6 Ebrill 2020
Mae llyfrau sydd ar fenthyg wedi cael eu hadnewyddu'n awtomatig ac ni fydd aelodau'n gorfod talu dirwyon pan fydd llyfrgelloedd yn ail-agor ym Mhowys, yn ôl y cyngor sir.
Bu rhaid cau llyfrgelloedd y sir fis diwethaf ar ôl i Lywodraeth y DU gynyddu mesurau i geisio atal y coronafeirws rhag ymledu ac achub bywydau trwy roi gorchymyn i gau gwahanol fannau.
Erbyn hyn mae Cyngor Sir Powys am sicrhau aelodau'r llyfrgell na fyddan nhw'n cael eu dirwyo a bydd unrhyw lyfrau sydd ar fenthyg yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet - Pobl Ifanc a Diwylliant: "Rydym yn sylweddoli faint y mae pobl yn gwerthfawrogi eu llyfrgelloedd lleol ond nid ydym wedi gweld cyfnod fel hwn o'r blaen, a'r peth iawn oedd cau llyfrgelloedd i geisio achub bywydau.
"Rydym eisiau i bobl ddilyn cyngor y llywodraeth ac aros gartref a dim ond gadael os oes wir angen. Dyna pam ein bod wedi adnewyddu llyfrau sydd ar fenthyg yn awtomatig ac ni fydd ein haelodau'n gorfod talu dirwy pan fydd y llyfrgelloedd yn ail-agor."
Er bod llyfrgelloedd ar gau, mae trigolion yn gallu parhau i fenthyg e-lyfrau ac e-lyfrau llafar am ddim ar-lein os ydyn nhw'n aelod o'r llyfrgell yn https://cy.powys.gov.uk/llyfrgelloedd
Bydd aelodau'r llyfrgell hefyd yn gallu cyrraedd 'Ancestry' ar-lein o'u cartrefi tan ddydd Iau, 30 Ebrill. Bydd modd hefyd llwytho rhai o'r cylchgronau mwyaf poblogaidd gan RBdigital gan gynnwys y Radio Times, Cosmopolitan, Country Living a chomics Disney i'r plant.
"Er bod y llyfrgelloedd ar gau, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n ymuno ar-lein ac yn defnyddio'r llyfrgell ddigidol i fenthyg e-lyfrau, e-lyfrau llafar, cylchgronau a chomics", dywedodd y Cynghorydd Powell.
"Mae 'Ancestry' yn wasanaeth gwych. Mae nawr yn amser da i olrhain eich coeden deuluol ac yn beth da i'w rannu gyda'r teulu.
"Mae gennym ddetholiad digidol gwych i bawb o bob oed ac mae gwrando ar lyfrau llafar yn ffordd wych i ymlacio."
I gofrestru'n aelod o'r llyfrgell ewch i https://cy.powys.gov.uk/llyfrgelloedd heddiw a gallwch ddechrau benthyg o'r catalog digidol ar unwaith.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y coronafeirws (COVID-19) gan y cyngor, ewch i https://cy.powys.gov.uk/coronafeirws