Y cyngor yn datgan bod angen rhagor o weithwyr gofal

17 Ebrill 2020
Mae gweithwyr gofal ym Mhowys yn gwneud gwaith gwych yn gofalu am ein pobl hŷn a thrigolion sy'n agored i niwed yn ystod pandemig Covid-19.
Fodd bynnag, rydym angen rhagor o bobl, dyna'r neges gan Gyngor Sir Powys.
Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am staff gofal ledled y sir. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi a bydd y swyddi hyn yn gweithio ar y cyd â darparwyr gofal, mewn cartrefi gofal ac mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae ystod eang o batrymau gwaith ar gael gyda rhai yn ystod nosweithiau a phenwythnosau.
Esboniodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod y Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion, Cyngor Sir Powys: "Os ydych yn chwilio am ffordd i gyfrannu at y frwydr yn erbyn COVID-19, yna gallai'r cyfleoedd yn y sector gofal fod i chi. Byddwch yn gallu cymryd balchder eich bod yn gwneud eich gorau yn y cyfnod anodd hwn ac yn gosod sylfeini ar gyfer gyrfa dda ar yr un pryd.
"Os nad ydych wedi ystyried y sector gofal o'r blaen, nawr yw'r amser. Camwch ymlaen a gallwch wneud byd o wahaniaeth," ychwanegodd y Cynghorydd Alexander.
Os oes gennych ddiddordeb yn un o'r rolau yma, ewch i https://recruitment.powys.gov.uk/ neu ffoniwch 01597 826409.
Mae'r cyngor hefyd yn chwilio am bobl ar gyfer swyddi eraill i helpu diogelu'r sir yn ystod y pandemig Covid19. Mae'r swyddi wedi'u hysbysebu ar y dudalen gwe uchod.