Coronafeirws (COVID-19) - Rheoli Gwybodaeth a Rhyddid Gwybodaeth
17 Ebrill 2020
I ymateb i Covid-19 penderfynwyd y bydd y Cyngor yn awr yn canolbwyntio ar y rolau allweddol i'w fusnes. Bydd pob cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Ceisiadau am Fynediad yn ôl Testun a wnaed o dan ddeddfwriaeth diogelu data, yn cael eu hatal tan i fusnes ailgychwyn yn ôl yr arfer.
Bydd unrhyw un fydd yn gwneud cais yn derbyn hysbysiad fod cais wedi'i dderbyn, ond yn nodi na fyddwn yn ymateb iddo ar hyn o bryd. Serch hynny, efallai y bydd rhai amgylchiadau lle bydd modd rhoi ymateb ar sail gwybodaeth o geisiadau eraill diweddar. Efallai na fydd yn ateb pob rhan o'r cais, ac yn yr achosion hynny, byddwn yn rhoi gwybod i'r sawl sy'n gwneud y cais y gallan ei ail-gyflwyno pan fydd busnes yn ailgychwyn yn ôl yr arfer.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth, a gallwn eich sicrhau y byddwn yn gweithio'n galed i gyflwyno'r gwasanaeth gorau posibl yn y cyfnod anodd hwn.