Cadw ein hardaloedd awyr agored yn ddiogel

21 Ebrill 2020
Yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud, rydym yn dal yn ddigon ffodus i allu mwynhau mynediad diogel i'r awyr agored ar gyfer ein hymarfer corff dyddiol.
Mae'r tywydd cynnes a heulog diweddar wedi sbarduno'r gwanwyn, ac mae'r glaswellt yn tyfu'n gyflym. O ganlyniad, bydd y Cyngor yn dechrau torri gwair mewn mynwentydd, ar stadau tai ac ardaloedd amwynder y sir yn fuan. Bydd hwn yn wasanaeth ar raddfa lai o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, ond bydd y gwaith yn sicrhau bod y rhan fwyaf o'n hardaloedd allanol yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn daclus fel bod preswylwyr yn gallu eu defnyddio mewn ffordd gyfrifol.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod y Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, "Mae staff y cyngor a fydd yn gwneud y gwaith torri gwair hyn wedi cael yr hyfforddiant a'r cyfarpar priodol i gadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel wrth iddyn nhw wneud y gwaith.
"Hoffwn atgoffa preswylwyr i barchu'r rheolau o ran cadw pellter cymdeithasol pan fyddwch yn eu gweld nhw ac i roi'r lle sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith. Trwy weithio gyda'n gilydd gallwn sicrhau ein bod yn cadw ein mannau awyr agored yn daclus ac yn ddiogel i bawb eu mwynhau wrth iddyn nhw wneud eu hymarfer corff dyddiol.
"Hoffwn ddiolch i'n holl staff am eu gwaith caled diflino yn ystod y cyfnod hwn ynghyd ag amynedd a chymorth ein preswylwyr, diolch yn fawr."