Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad Preifatrwydd Coronafeirws COVID 19

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Coronafeirws - COVID-19

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol mewn perthynas â pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn benodol.

Mae ein Rhybudd Preifatrwydd Corfforaethol yn cynnwys rhagor o wybodaeth ar sut yr ydym yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol, yn ogystal â'ch hawliau fel pwnc data.

Efallai eich bod wedi darparu gwybodaeth bersonol i ni am reswm penodol ac fel arfer, byddem yn rhoi gwybod i chi os oedd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at ddiben gwahanol.  Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa sy'n datblygu'n gyflym o ran COVID-19, ni fydd hyn bob amser yn bosibl.

Os ydym eisoes yn cadw gwybodaeth am eich bregusrwydd fel y diffinnir yn y canllawiau presennol gan y Llywodraeth, efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon â gwasanaethau mewnol a/neu allanol i ni, at ddibenion cynllunio brys a/neu er mewn diogelu eich buddiannau hanfodol.

Efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am wybodaeth bersonol, gan gynnwys gwybodaeth bersonol sensitif nad ydych eisoes wedi'i rhoi - er enghraifft, eich oedran neu os oes gennych unrhyw salwch sylfaenol neu os ydych yn agored i niwed.  Mae hyn er mwyn i ni allu eich cynorthwyo a blaenoriaethu gwasanaethau.

Os oes gennym wybodaeth sy'n dangos eich bod yn agored i niwed, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n trefnu i eraill gysylltu â chi i sicrhau eich diogelwch ac i'ch cynorthwyo lle bo modd.

Os ydych chi'n wirfoddolwr, byddwch wedi darparu gwybodaeth bersonol i'n galluogi   i gyfathrebu â chi, ac i helpu i gydlynu a darparu cymorth gwirfoddolwyr yn ddiogel. Os ydych yn defnyddio gwasanaethau cymorth gan wirfoddolwyr, byddwn yn defnyddio eich data i alluogi gwirfoddolwyr i'ch cefnogi yn ystod pandemig COVID-19 ac i'ch cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau hanfodol.

Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch o ran hawliau neu fentrau ariannol

 

Gweithgareddau prosesu- efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth bersonol i gefnogi'r gwaith i ddarparu gwasanaethau uniongyrchol ac annuniongyrchol.

Gofynion gwybodaeth - gallai ein gweithgareddau prosesu gynnwys:

·         gwybodaeth bersonol (megis, enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, oedran)

·         hanes meddygol a manylion cyswllt Meddyg Teulu

·         dangosyddion iechyd (statws iechyd meddwl, statws gweithgareddau corfforol)

Seiliau cyfreithlon- ein seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol yw:

·           lle bo angen prosesu er mwyn diogelu buddiannau hanfodol chi eich hunan neu berson arall (Erthygl 6 (1) (d) a 9 (2) (c) GDPR);

·           pan fo prosesu'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd (Erthygl 6 (1) (e)

·           lle bo angen prosesu'r data am resymau sydd o ddiddordeb sylweddol i'r cyhoedd (Erthygl 9 (2) (g) GDPR);

·           lle mae prosesu o fudd iechyd y cyhoedd (Erthygl 9 (2) (i) GDPR).

Rhesymau dros brosesu- mae peth o'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu a'i rhannu yn cael ei dosbarthu fel data personol categori arbennig (dangosyddion iechyd, statws iechyd meddwl, statws gweithgarwch corfforol). Caiff hwn ei brosesu am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol o dan y cyfreithiau sy'n berthnasol i ni, fel awdurdod lleol, (gweler uchod) lle mae hyn yn helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol ehangach fel y bo angen i ni gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a'n gofynion rheoliadol yn ystod pandemig COVID-19.

Rhannu data - efallai y byddwn yn derbyn ac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda ac yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i:

·         Adrannau ein gwasanaethau (lle'n angenrheidiol a chymesur i wneud hynny)

·         Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

·         Llywodraeth Cymru

·         Meddygon Teulu, ymarferwyr meddygol eraill

·         Gwasanaethau Argyfwng

·         Gwirfoddolwyr

·         Contractwyr (lle'n angenrheidiol a chymesur i wneud hynny)

·         Rhanddeiliaid eraill (lle'n angenrheidiol a chymesur i wneud hynny)

Cyfnod cadw - byddwn yn cadw eich data drwy gydol pandemig COVID-19 ac am gyfnod byr, fel y tybir sy'n angenrheidiol, yn dilyn hysbysiad gan y Llywodraeth Ganolog nad oes pandemig bellach.

Gwneud yn ddienw - gellir trosi eich gwybodaeth bersonol ('yn ddienw') yn ddata ystadegol neu gyfansymiol mewn ffordd sy'n sicrhau na ellir eich adnabod ohono. Ni ellir cysylltu data cyfanredol, drwy ddiffiniad, yn ôl i chi fel unigolyn, a gellir ei ddefnyddio i gynnal ymchwil a dadansoddi, gan gynnwys paratoi ystadegau i'w defnyddio yn ein hadroddiadau.

Ni fyddwn yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon.

Hawl i wrthwynebu- lle mae angen prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni tasg diddordeb y cyhoedd (gweler ein seiliau cyfreithlon uchod), mae gennych hawl i wrthwynebu ar 'sail sy'n ymwneud â'ch sefyllfa benodol '. Bydd yn rhaid i ni ddangos pam ei bod yn briodol i ni barhau i ddefnyddio eich data personol.

Gwybodaeth bellach - gweler Cwestiynau Cyson y Comisiynydd Gwybodaeth ar drin data yn ystod pandemig COVID-19.