HYSBYSIAD: Gweithredu'r tâl o £500 i weithwyr gofal
Darllen mwy

Cynigion i Ail-strwythuro Adran Y Maes yr Urdd

Image of Urdd logo

28 Ebrill 2020

Image of Urdd logoMae Aelod Portffolio'r Gymraeg wedi ysgrifennu llythyr am y cynigion i ail-strwythuro darpariaeth yr Urdd yn lleol.

Ysgrifennaf yn sgil y cynigion sydd wedi'u rhoi gerbron gan yr Urdd ar gyfer ail-strwythuro'r adran sy'n gyfrifol am waith maes yr Urdd o fewn y rhanbarthau, i gynnig sylwadau Cyngor Sir Powys ar y cynigion hynny, fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ddarpariaeth yr Urdd yn Rhanbarth Maldwyn a Rhanbarth Brycheiniog a Maesyfed.

Mae'r Urdd yn fudiad pwysig iawn yma i ni ym Mhowys. Fel arfer ar yr adeg yma o'r flwyddyn, bydd y sir yn ferw o weithgaredd yn paratoi at yr Eisteddfodau Cylch a Sir o Lanfyllin i Ystradgynlais, gyda'r aelodau yn cystadlu mewn cystadlaethau llwyfan, dawns, celf a chrefft a nifer o bethau eraill er mwyn cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos y Sulgwyn.

Arweiniodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 at gynnydd mawr yng ngweithgaredd yr Urdd yn yr ardal. Yn sgil yr Eisteddfod a phenodi Swyddog Datblygu llawn amser yn yr ardal, gwelwyd cynnydd o 50% yn aelodaeth yr Urdd (o 795 i 1198 o aelodau) a thair gwaith y nifer o blant yn cymryd rhan yn y gweithgareddau chwaraeon, gan gynyddu o 368 yn 2015/16 i 1121 yn 2018/19. Mae hyn yn dangos gwerth a phwysigrwydd presenoldeb yn lleol. Trwy gael Swyddog Datblygu yn gyfrifol am yr ardal, llwyddwyd hefyd i gael cyswllt â disgyblion yn 6 allan o 7 o ysgolion uwchradd yr ardal, ac ym mhob un o'r ysgolion cynradd. Mae 2098 o aelodau hefyd ym Maldwyn, a'r swyddogion yn gweithio gyda 43 ysgol gynradd a 6 ysgol uwchradd.

Mae cynlluniau i ddod â'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i Sir Drefadwyn yn y blynyddoedd nesaf hefyd, ac mae disgwyl bwrlwm o weithgareddau wrth i ni baratoi at hynny, a llawer o ddiddordeb ychwanegol yng ngweithgareddau'r mudiad yn sgil hynny.

Mae llawer mwy i weithgareddau'r Urdd na dim ond yr Eisteddfod wrth gwrs, gyda chystadlaethau chwaraeon, clybiau ac aelwydydd yr Urdd yn yr ysgolion ac yn y gymuned, yr ymweliadau â gwersylloedd yr Urdd, a theithiau tramor yr Urdd i leoedd fel Disneyland Paris, ac mae'r Cyngor wedi cyfrannu'n hael tuag at y gweithgareddau hyn dros y blynyddoedd, ac wedi bod yn cyd-weithio gyda'r Urdd i gefnogi'r gweithgareddau pwysig hyn.

Mae'n bryder mawr i ni felly fod yr Urdd yn bwriadu cau eu swyddfa yn Y Drenewydd ar adeg mor dyngedfennol, fydd yn golygu nad oes swyddfa yn y canolbarth o gwbl - dim byd rhwng Dinbych a Gwent, na rhwng Glan-llyn a Llangrannog. Mae hon yn ardal enfawr o Gymru, ac yn ardal sydd angen cefnogaeth mudiadau fel yr Urdd i sicrhau fod gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn cael eu cynnal.

Bydd disgwyl i staff sy'n gyfrifol am Bowys deithio o Ddinbych i gefnogi gweithgareddau ym Maldwyn, neu o ardal Castell-nedd Port Talbot i weithgareddau mor bell i'r gogledd â Rhaeadr a Thref-y-clawdd, gan olygu y byddant yn eu ceir yn teithio ar hyd ffyrdd y sir yn hytrach nag yn cefnogi'r gweithgareddau pwysig hyn, a chael cyswllt gyda phobl ifanc y sir.

Rwy'n pryderu'n fawr y bydd hyn yn cael effaith andwyol sylweddol ar allu'r Urdd i gynnal gwasanaethau a chyswllt ag aelodau yn y sir, ac yn ei gwneud yn anodd iawn i'r mudiad gynnal lefel y gwasanaeth y mae eu haelodau ym Mhowys yn ei haeddu. Mae'r ddogfen yn cyfeirio at sicrhau fod darpariaeth gyson ar gael ledled Cymru yn sgil y cynigion, ond gydag ardal mor eang i'w gwasanaethu, ni allaf weld sut y bydd modd cynnig yr un lefel o wasanaeth a fydd yn cael ei gynnal mewn rhannau eraill o Gymru heb bresenoldeb yn y canolbarth.

Ofnaf y gallai hyn gael effaith ar weithgareddau ac i'r gefnogaeth i'r Urdd yn y sir, a hynny pan fyddwn am ysbrydoli'r trigolion i gefnogi'r gwaith o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y sir yn y dyfodol agos.

Cafodd cwestiwn ei holi i mi fel Aelod Portffolio'r Gymraeg y Cyngor ar y mater hwn gan un o aelodau Cyngor Sir Powys yn ddiweddar, oedd yn gweld hyn fel cam yn ôl i'r Urdd yn yr ardal ac na fydd yn ddull ymarferol o ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc Powys. Cytunaf fod hyn yn bryder mawr, ac felly rwy'n yn galw ar yr Urdd i ail-ystyried y cynnig, fel bod darpariaeth deg a chyfartal ar gael yng nghanolbarth Cymru. A gofynnwn i chi ddod i drafod gyda ni i edrych ar sut i gynnal y ddarpariaeth bwysig hon yma ym Mhowys.

Yr eiddoch yn gywir,

Cyng. Myfanwy Alexander

Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion a'r Gymraeg

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu