Ymchwiliad i garcasau wedi'u dympio

29 Ebrill 2020
Mae'r cyngor sir yn ymchwilio i nifer o garcasau ŵyn sydd wedi'u dympio o bont yng nghanolbarth Powys.
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys wrthi'n ymchwilio i'r digwyddiad yn ardal Llananno - dyma'r ail ddigwyddiad yn y sir y mis hwn.
Yn sgil y digwyddiad mae'r gwasanaeth am atgoffa'r gymuned amaethyddol ym Mhowys unwaith eto i waredu carcasau anifeiliaid yn y ffordd gywir.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, yr Aelod Cabinet dros Safonau Masnach: "Mae'n hynod siomedig, er gwaethaf y rhybuddion a roddwyd o'r blaen, ein bod wedi cael ail ddigwyddiad yn y sir. Mae dympio carcasau yn fater difrifol ac mae'n gallu arwain at risg gwirioneddol o glefyd yn ogystal â niweidio enw da'r gymuned ffermio.
"Mae'r gyfraith yn glir ac yn angenrheidiol i reoli lledaeniad clefydau i anifeiliaid eraill ac i ddiogelu'r gadwyn fwyd ddynol. Mae torri'r gofynion hyn yn fygythiad i iechyd pobl ac anifeiliaid.
"Atgoffir ffermwyr ei fod yn ofynnol o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodaeth) (Cymru) 2014 fod pob carcas yn cael ei gasglu, ei gludo a'i waredu mewn modd cymeradwy.
"Os nad yw ffermwyr yn dilyn y rheoliadau hyn yna byddwn yn ymchwilio ac yn cymryd y camau priodol," meddai'r Cynghorydd Evans.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiad hwn, dylent gysylltu â Safonau Masnach ar 01597826031.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am y rheoliadau drwy fynd i adran cyngor busnes www.powys.gov.uk/tradingstandards a chlicio ar iechyd a lles anifeiliaid.