Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Annwyl Ddarparwyr Gofal Plant Powys,
Ar 6 Ebrill 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y Cynnig Gofal Plant yn cael ei ddileu o 1 Ebrill 2020 ymlaen. Bydd Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws newydd yn rhedeg dros dro i ddarparu gofal plant i blant oedran cyn-ysgol gweithwyr hanfodol. Yn ogystal, bydd y cynllun yn cynnig cymorth i blant cyn-ysgol sy’n agored i niwed yn ystod pandemig Covid-19.
Gweler canllawiau Coronafeirws Llywodraeth Cymru i ddarparwyr gofal plant i rai dan bump oed
Mae Tîm Gofal Plant Powys yn parhau i gyd-drefnu’r ceisiadau am Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws ac yn dyrannu lleoedd i blant yn wythnosol.
Rhaid i rieni gwrdd â meini prawf y cynllun a chadw lleoedd drwy Dîm Gofal Plant Powys. Wedyn byddwn yn eich talu am yr oriau hynny trwy’r model cyllido cadw bloc o oriau a rannwyd gyda chi o’r blaen. Fel y gwelwch o’r canllawiau, mae amodau’r cyllid yma’n wahanol i’r Cynllun Gofal Plant. Nid yw’r oriau a ariennir yn cael eu cyfyngu i 30 awr yr wythnos. Gall rhieni wneud cais am faint bynnag o oriau sydd eu hangen arnynt oherwydd efallai y bydd rhaid iddynt weithio oriau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol at ddibenion monitro:
Efallai y bydd angen cadw cyfrifon agored fel tystiolaeth bod darparwyr yn rheoli eu costau’n briodol er mwyn edrych ar ôl y plant o dan eu gofal. Rhaid gofalu nad ydynt ond yn hawlio’r grantiau sydd yn angenrheidiol i gefnogi eu busnesau. Mae hyn o ran cyllid gofal plant uniongyrchol a chymorth y llywodraeth a gynigir trwy gynlluniau Covid-19 megis grantiau busnes.Efallai y byddwn yn cynnal asesiadau i sicrhau nad oes neb yn hawlio’r un cyllid ddwywaith a’i fod yn talu am gostau gofal y plant sydd wedi eu lleoli.
Rwy’n deall bod hwn yn drefniant newydd ac yn benodol i bob lleoliad. Pe hoffech drafod eich trefniadau unigol mewn mwy o fanylder, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm Gofal Plant gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod. covid19earlyyearscc@powys.gov.uk
Arwyddwch y datganiad isod i gadarnhau y byddwch yn parhau i gyflwyno’r gofal plant C-CAS dan y pecyn ariannol a’r trefniadau a gytunwyd gyda chi. Sylwch y bydd methu llenwi’r datganiad yn arwain at oedi cyn talu.
Eich datganiad
Rwy’n deall y canlynol:
Rhannwch y dudalen hon
Argraffu