Beth mae Cyngor Sir Powys yn ei wneud o ran cam-drin domestig?
Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i leihau achosion o gam-drin domestig a'i wneud yn llai derbyniol mewn cymdeithas.
Cam-drin domestig yw un o'r prif resymau dros dderbyn plant i ofal ym Mhowys. Mae hefyd yn cael effaith cymdeithasol, iechyd ac economaidd negyddol sylweddol ar ein cymunedau. I fynd i'r afael â hyn rydym yn:
- Hyfforddi ein staff ar drais yn derbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Ariannu asiantaethau lleol er mwyn gallu cynnig lloches a gwasanaethau i ddioddefwyr a'r rhai sydd wedi dianc.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru trwy strategaeth leol sef
- Gweithio gyda Chymorth i Fenywod i ddatblygu'r fenter "Ask Me" a gafodd ei beilota ym Mhowys.
- Casglu a chyhoeddi data ar ba mor helaeth mae achosion o gam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod yn unol â'n dyletswyddau dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau