Gwaith yn ailddechrau ar brosiectau adeiladu'r cyngor

19 Mai 2020
Bydd rhai o safleoedd adeiladu Cyngor Sir Powys, sydd wedi cau dros dro i gydymffurfio â mesurau atal Llywodraeth Cymru, yn gweld gwaith yn ailddechrau yn fuan.
Ym mhob cwr o'r sir, bydd gwaith ar brosiectau adeiladu'r cyngor yn dechrau unwaith eto gyda safonau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i ddiogelu'r gweithwyr, cymunedau a'r cyhoedd.
Gan gydweithio i ddiwallu canllawiau'r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol a ffyrdd diogel o weithio, mae'r cyngor a'i gontractwyr yn gobeithio gweld gwaith yn ailddechrau ar y mwyafrif o brosiectau yn fuan.
Mae hyn yn cynnwys gwaith ar briffyrdd, datblygiadau tai, cyfleusterau crynhoi deunyddiau ailgylchu ac ysgolion.
Dywedodd y Cyng. Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Wrth i ni oll ddysgu i addasu i ffordd newydd o fyw, rhaid i ni gydweithio i ganfod ffyrdd newydd a diogel o weithio.
"Mae'n wych gweld elfen o normalrwydd yn dychwelyd wrth i waith ailddechrau ar rai o'n prosiectau, ond mae iechyd a diogelwch ein cydweithwyr a'r gymuned ehangach yn parhau'n hollbwysig ar bob adeg.
"Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad i ddychwelyd i safleoedd ac ailddechrau'r gwaith. Mae'r holl staff wedi derbyn yr hyfforddiant a chyfarpar priodol, a bydd protocolau a mesurau ychwanegol yn cael eu dilyn i ganiatáu iddynt weithio'n ddiogel, tra'n gostwng lledaeniad y feirws."