Angen brys am ragor o weithwyr gofal yn y cartref

Mai 20, 2020
Mae Cyngor Sir Powys am recriwtio 30 o weithwyr gofal yn y cartref ar frys i helpu preswylwyr i aros yn annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.
Mae'r swyddi - cynorthwywyr gofal yn y cartref - ar gael ledled Powys a bydd am gyfnod penodol o chwe mis. Mae'r cyngor angen rhagor o staff oherwydd bod nifer o'r gweithlu yn gwarchod eu hunain neu'n cadw pellter cymdeithasol ar hyn o bryd gyda rhyw 4.7% o weithlu'r cyngor cyfan ddim ar gael ar hyn o bryd.
Y Cynghorydd Myfanwy Alexander yw'r Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Ofal Cymdeithasol Oedolion. Dywedodd: "Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae llawer o bobl wedi cael cyfle i fyfyrio ac efallai i ystyried cyfeiriad newydd. Ac wrth gwrs, mae gwerth gweithwyr gofal yn gliriach nag erioed o'r blaen.
"Beth am ystyried gweithio i Bowys yn y sector hollbwysig hwn? Byddwn ni'n gallu eich helpu gyda hyfforddiant a dod o hyd i swydd sy'n gweddu i'ch sgiliau. Dros yr wythnosau anodd hyn, rydym ni i gyd wedi cyd-dynnu i gyflawni felly os ydych chi eisiau bod mewn swydd sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl beth am gysylltu â ni i weld lle gall gyrfa yn y maes gofal fynd â chi ym Mhowys?, " ychwanegodd y Cynghorydd Alexander.
Gellir gweld rhagor o fanylion am y swyddi yma https://recruitment.powys.gov.uk/
Michael Gray yw Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ac esboniodd:
"Rydym angen rhagor o bobl yn y maes Gwasanaethau Oedolion i ddarparu gofal a chymorth i oedolion yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r swyddi'n cael eu cynnig fel swyddi 24 awr yr wythnos am y 6 mis nesaf.
"Byddai'r swydd yn golygu helpu oedolion i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw i'w helpu i fyw'n annibynnol. Efallai y byddwch hefyd yn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu trwy gyfnod y cyfyngiadau symud. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi cael profiad o weithio yn y maes gofal cymdeithasol o'r blaen, byddem yn dal yn falch o glywed gennych. Yr hyn sydd bwysicach i ni yw bod gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phobl, eich bod yn hyblyg o ran patrymau sifft ac yn gallu ymrwymo i'r rôl am o leiaf 6 mis.
"Mae'r rôl hwn yn gyfle go iawn i wneud gwahaniaeth i'n preswylwyr ym Mhowys ac edrychwn ymlaen at glywed gennych."
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 10 Mehefin 2020.