Adolygu polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol

2 Mehefin 2020
Cafwyd ei gadarnhau bod adolygiad o bolisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Sir Powys wedi'i gynnal yn dilyn cymeradwyaeth o Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030 ym mis Ebrill.
Yn dilyn yr adolygiad, drafftiwyd polisi diwygiedig a bydd y polisi hwn yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau a'r Cabinet yn ystod y dyddiau nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar faterion Cludiant Ysgol: "Rydym yn dechrau ar daith drawsnewid gyffrous er mwyn darparu gwell addysg a sicrhau gwell canlyniadau i'n plant.
"Mae creu'r amgylchedd cywir lle gall ein plant ragori yn ganolog i'n diwygiad addysgol.
"Wrth i ni ddechrau ar y daith hon, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol yn datblygu'n gyfochrog â'r newidiadau hyn fel ei fod yn cefnogi ein prif amcanion. Rydym yn debygol o adolygu'r polisi yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn addas i'r diben.
"Byddwn yn ymgynghori â phrif randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd ar ein polisi diwygiedig a bydd y Cabinet yn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad ar ddiwedd yr haf cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud."