Trawsnewid addysg yn cyflymu

2 Mehefin 2020
Bydd Cabinet y cyngor yn cael eu hysbysu'r wythnos nesaf bod y gwaith o gyflwyno strategaeth deng mlynedd uchelgeisiol i drawsnewid addysg ym Mhowys yn cyflymu.
Mae Cyngor Sir Powys wedi sefydlu trefniadau a llywodraethu newydd ar gyfer y rhaglen i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg. Cymeradwywyd y strategaeth gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Rosemarie Harris, o dan bwerau dirprwyedig ym mis Ebrill.
Fel rhan o drefniadau'r rhaglen, mae'r cyngor wedi sefydlu pedair ffrwd waith i gyflawni'r nodau strategol a nodwyd yn y strategaeth. Y ffrydiau gwaith yw:
- Ysgolion pob oed ac ysgolion cynradd
- Darpariaeth ôl-16
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Darpariaeth ADY
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Mae dysgu a sgiliau yn gonglfaen i'n Gweledigaeth 2025 ac rydym am ddarparu system addysg wledig o'r radd flaenaf sydd â hawliau'r dysgwr wrth ei chraidd.
"Er mwyn darparu system addysg o'r radd flaenaf ac i gyflawni nodau ein strategaeth, mae angen i ni gael y trefniadau cywir yn eu lle i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen i drawsnewid profiad y dysgwr a hawliau ein pobl ifanc.
"Rydym wedi ymrwymo i roi'r dechreuad gorau posibl y mae ein dysgwyr yn eu haeddu, a'n dysgwyr fydd wrth wraidd ein holl benderfyniadau.