Gwaith gosod wyneb newydd ar ffyrdd y sir ym Mhowys

6 Mehefin 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd gwaith hanfodol i osod wyneb newydd ar rai o ffyrdd Powys yn dechrau ddydd Llun 8 Mehefin 2020.
Mae'r gwaith a gynlluniwyd i osod wyneb newydd yn rhan o raglen buddsoddi cyfalaf y cyngor a bydd yn dechrau'r wythnos nesaf gyda dau griw ar wahân yn gweithio ar draws y sir. Mae'r llun atodedig yn dangos y broses a fydd yn cael ei chyflawni.
"Bydd y gwaith sydd wedi'i gynllunio yn cael ei wneud ar bron i 40 o safleoedd sydd wedi dirywio ar ein rhwydwaith ffyrdd sirol er mwyn eu cryfhau a'u gwella ar gyfer y blynyddoedd i ddod." Esboniodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, yr Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd.
"Mae pob aelod o staff priffyrdd wedi derbyn yr hyfforddiant a'r cyfarpar priodol i'w cadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel wrth iddynt weithio i gwblhau'r gwaith o osod wyneb newydd ar y ffyrdd a bydd canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer y gweithle Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn."
Gofynnir i breswylwyr i gadw llygad am arwyddion melyn a fydd yn rhoi gwybod iddynt pryd y bydd y gwaith yn digwydd yn eu hardal.
"Hoffem ddiolch i'n holl staff am eu gwaith caled parhaus ar hyn o bryd ac am gymorth ac amynedd ein preswylwyr, diolch." Ychwanegodd y Cynghorydd Hulme.