Mae angen eich cefnogaeth chi ar blant a theuluoedd!

10 Mehefin 2020
Allech chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd ym Mhowys dros y pandemig hwn?
Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am Gynorthwywyr Personol ar frys i gynnig gofal a chefnogaeth a seibiant byr dros nos i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion cymhleth.
Os oes gennych brofiad a sgiliau gofalu am blant a phobl ifanc ac y byddech yn dymuno gweithio gyda theuluoedd trwy daliadau uniongyrchol, fe allai fod yn gyfle gwych i chi.
Mae eich angen chi ar blant a phobl ifanc o bob cwr o'r sir, un ai am ddiwrnod neu gymorth preswyl dros benwythnos i gynnig seibiant i deuluoedd o'u cyfrifoldebau gofalu.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Plant:
"Mae'n gyfnod anodd i ni gyd, ond yn arbennig i deuluoedd sydd â phlant ag anableddau ac anghenion cymhleth sydd angen cymorth a gofal penodol. Felly os ydych chi'n berson caredig ac am wneud rhywbeth anhygoel i blant a theuluoedd dros yr argyfwng hwn, yna anfonwch gais nawr.
Am fwy o wybodaeth ewch i https://recruitment.powys.gov.uk/