Ymgyrch #PrynuLleolPowys

19 Mehefin 2020
Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i gefnogi a siopa'n lleol lle'n bosibl fel rhan o ymgyrch newydd sy'n cael ei lansio gan y cyngor sir.
Bydd Cyngor Sir Powys yn lansio ymgyrch #PrynuLleolPowys ar gyfryngau cymdeithasol ac yn awyddus i drigolion y sir wneud eu rhan a chefnogi'r economi lleol dros y misoedd nesaf.
Nod yr ymgyrch yw rhoi hwb i'r economi lleol a helpu'r sir i wella ar ôl llacio cyfyngiadau Covid-19.
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae pawb ar draws y sir wedi teimlo effaith pandemig Covid-19 gyda busnesau lleol un ai'n gorfod cau neu'n newid eu ffordd o weithio.
"Yn bennaf, mae trigolion Powys wedi gallu siopa'n lleol am fwyd a rhai cynnyrch eraill gan fod nifer o fusnesau lleol wedi parhau i weithredu'n gyfrifol o fewn y cyfyngiadau a gwasanaethu ein cymunedau ni.
"Rydym yn annog ac yn gofyn i drigolion brynu'n lleol nawr ac yn y dyfodol lle'n bosibl, i helpu ein busnesau lleol a helpu'r sir i ffynnu'n economaidd."
Nod ymgyrch #PrynuLleolPowysCyngor Sir Powys fydd hyrwyddo:
- y siopau traddodiadol sydd i'w gweld ar ein stryd fawr neu'r cymunedau llai o faint sydd un ai ar agor nawr neu a fydd yn agor wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio;
- busnesau sydd â phresenoldeb ar-lein neu wefan fel bod cwsmeriaid yn gallu archebu nwyddau a fydd un ai'n cyrraedd stepen y drws neu bydd modd eu casglu yn ystod y mesurau cadw pellter cymdeithasol.
I fod yn rhan o'r ymgyrch hwn, rydym yn gofyn i drigolion Powys rannu a hoffi'r negeseuon #PrynuLleolPowys ar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram ac i ddefnyddio'r hashnod wrth rannu eu cynnwys eu hunain ar-lein am fusnesau lleol.
Dylai unrhyw berchnogion busnesau lleol sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r ymgyrch ac am wybod mwy, neu'n well byth am gyflwyno fideo byr 1 - 2 munud neu lun yn esbonio sut maen nhw'n gwneud busnes ar hyn o bryd, i gysylltu â thîm cyfathrebu'r cyngor ar comms@powys.gov.uk