Cyngor i fusnesau ar y newidiadau diweddaraf
Mae paratoadau ar waith i ail-agor canol trefi yn ddiogel ddydd Llun 22 Mehefin yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y gall siopau nad ydynt yn hanfodol ailagor yng Nghymru.
Mae Cyngor Sir Powys wrthi'n rhoi'r mesurau yn eu lle i sicrhau bod busnesau yn derbyn cymorth i weithredu'n ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn wrth i lawer baratoi i agor eu drysau eto.
Mae busnesau'n cael eu hannog i gyfarwyddo eu hunain gyda'r canllawiau diweddaraf a'r rhagofalon angenrheidiol cyn dydd Llun.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-newidiadau-o-ddydd-llyn-22-mehefin
Cadwch Gymru yn ddiogel yn y Gwaith (gan gynnwys asesiad risg)
https://llyw.cymru/diogelu-cymru-yn-y-gwaith
Dolenni defnyddiol
Os oes angen cefnogaeth bellach ar eich busnes, cysylltwch â'n Tîm Safonau Masnach ar 01597 827460 neu e-bostiwch trading.standards@powys.gov.uk