Y Stryd Fawr i ail-agor yn ddiogel ym Mhowys

19 Mehefin 2020
Mae paratoadau ar waith i ail-agor canol trefi yn ddiogel ddydd Llun 22 Mehefin yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y gall siopau nad ydynt yn hanfodol ailagor yng Nghymru.
Mae Cyngor Sir Powys wrthi'n rhoi'r mesurau yn eu lle i sicrhau bod busnesau yn derbyn cymorth i weithredu'n ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn wrth i lawer baratoi i agor eu drysau eto.
Mae busnesau'n cael eu hannog i gyfarwyddo eu hunain gyda'r canllawiau diweddaraf a'r rhagofalon angenrheidiol cyn dydd Llun.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod y Cabinet ar faterion yr Economi, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yma gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallwn nawr gymryd y cam nesaf i ddechrau agor Powys ar gyfer busnes yn raddol.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld rhagor o fusnesau'n masnachu eto yn dilyn misoedd anodd, ond rydym yn gwybod bod yn rhaid gwneud hynny'n ddiogel ac yn gyfrifol.
"Mae'n rhaid i ni gyd barhau i aros yn lleol ac i ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol. Bydd angen i ganol ein trefi a siopau i gadw hyn mewn cof wrth iddyn nhw ailagor er mwyn cadw'r risg o heintio'n isel ac i amddiffyn bywydau.
"Bydd angen i bawb i fod yn gyfrifol i gadw ein stryd fawr yn ddiogel. Mae hon yn dasg fawr, ac ar y cyd â phartneriaid, mae'r cyngor yn llunio cynlluniau penodol ar gyfer pob tref.
"Wrth i ni symud ymlaen bydd mesurau'n cael eu datblygu a'u monitro gyda'n cynghorwyr sir a'n cynghorwyr tref. Sefydlwyd grŵp penodol yn y cyngor i weithio'n agos gyda phob un o'r prif drefi ac i helpu gyda materion cymhleth.
"Rhai o'r mesurau dros dro cychwynnol y byddwn yn eu rhoi yn eu lle fydd glanhau mannau talu mewn meysydd parcio yn fwy rheolaidd, gwneud yn siwr nad yw pobl yn defnyddio rhai mannau parcio ar y stryd, a chau rhai strydoedd.
"Bydd mwy o angen am le ar y stryd ond rydym yn gwerthfawrogi y bydd ymarferoldeb hyn yn amrywio o dref i dref. Mae'r cyfrifoldeb yn dal i fod gyda phob un ohonom i ddilyn y canllawiau ac i fod yn ymwybodol o'n hamgylchoedd.
"Fel cyngor byddwn yn parhau i gefnogi ein busnesau lleol a gwneud popeth y gallwn i gadw pobl yn ddiogel yn ein trefi a'n cymunedau.
"I helpu rhoi hwb i economi Powys rydym wedi lansio ymgyrch newydd i annog pobl i ddefnyddio eu stryd fawr a 'prynu'n lleol'. Hoffwn annog pawb i gefnogi busnesau lleol fel eu bod yn gallu gwella a ffynnu unwaith eto."
Mae Cyngor Sir Powys yma i helpu. Edrychwch ar y canllawiau diweddaraf ac ewch i wefan y cyngor i gael adnoddau defnyddiol, cysylltiadau allweddol a chyngor ariannol -
https://cy.powys.gov.uk/article/8766/Coronafeirws-COVID-19---Help-ar-gyfer-busnesau
Os oes angen rhagor o gymorth ar eich busnes cysylltwch â'n Tim Safonau Masnach ar 01597 826000 neu anfonwch e-bost trading.standards@powys.gov.uk.