Gwaith lledu ar rai o balmentydd 'stryd fawr' Powys i helpu gyda chadw pellter cymdeithasol.
Mehefin 22, 2020
Bydd gwaith lledu palmentydd yn dechrau'n fuan mewn rhai trefi ym Mhowys. Gyda'r mesurau dros dro, bydd modd i bobl gadw pellter cymdeithasol yn fwy diogel wrth ymweld - a chiwio - am y siopau, a hefyd bydd modd i fusnesau fynd nôl i'r gwaith yn gynt.
Mae Cyngor Sir Powys yn ystyried gosod rhwystrau a chonau lle bydd angen, yn y prif strydoedd siopa yn:
· Machynlleth;
· Llanidloes;
· Y Drenewydd;
· Y Trallwng;
· Llanfyllin (i'w gadarnhau)
· Llandrindod;
· Llanandras
· Tref-y-clawdd
· Rhaeadr Gwy;
· Llanfair-ym-Muallt
· Y Gelli Gandryll
· Aberhonddu
· Crughywel.
· Ystradgynlais.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y gwaith hwn: "Fel nifer o gynghorau eraill ar draws y DU, rydym yn gwneud y gwaith hwn i'w wneud yn haws i bobl gadw pellter cymdeithasol yng nghanol y trefi. Fel y gwyddom, palmentydd cul iawn sydd yn rhai o'n trefi ni sydd ddim yn hwyluso pethau wrth geisio cadw pellter cymdeithasol heb orfod cerdded ar y ffordd fawr. Wrth i draffig ar y ffordd gynyddu, mae angen i ni gyflwyno mannau diogel i bobl gerdded."
Esboniodd y bydd rhwystrau a chonau dros dro'n cael eu defnyddio i greu mannau cerdded trwy gael gwared ar lefydd parcio ar y stryd, er y bydd y mannau parcio i'r anabl yn parhau. Mae'n bosibl hefyd y bydd rhai o ffyrdd y trefi'n cael eu cau dros dro, ond bydd modd dosbarthu nwyddau a chyrraedd cartrefi.
"Gyda'r mesurau hyn, bydd yn haws i fusnesau ymdopi â phobl fydd efallai angen ciwio tu allan er mwyn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol. Mae'n bosibl y bydd yn golygu bod rhai busnesau'n gallu agor yn fwy buan", ychwanegodd.
"Byddwch wedi gweld trefniadau tebyg yn y trefi a'r dinasoedd mawr ar draws y DU ond bydd gan ein trefi gwledig bach anghenion gwahanol a bydd hyn yn golygu gwahanol fesurau i'r 'stryd fawr' yn nhrefi Powys."
I helpu i roi'r prosesau hyn ar waith, bydd swyddog cyswllt dros dro yn helpu ac yn gweithio gyda chynghorau tref a'r gymuned leol dros yr wythnosau nesaf. Byddwn yn cyhoeddi manylion pellach maes o law.
Byddwn yn cyflwyno'r mesurau dros dro hyn, lle bydd angen, yn y trefi a restrwyd uchod yn gyntaf cyn ystyried cymunedau eraill yn y sir. Mesurau cychwynnol a dros dro yw'r rhain a bydd y cyngor yn gweithio'n agos â chynghorwyr lleol a busnesau i sicrhau'r ffordd orau ymlaen wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Ym mis Mai eleni, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth brys a chyllid i alluogi'r gwaith hwn i ddigwydd.