Neges i weithwyr cymdeithasol

23 Mehefin 2020
Mae Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cymwys i ymuno â'u timau.
Mae'r gwasanaeth yn gwella'n gyflym ac yn cyflawni'r deilliannau gorau i blant a phobl ifanc trwy ddefnyddio Fframwaith Arwyddion Diogelwch. Mae'r gwasanaeth yn cynnig pecyn atyniadol i Weithwyr Cymdeithasol, gyda chefnogaeth a goruchwyliaeth ragorol.
Rydym hefyd yn cynnig taliad atodol ar sail y farchnad i staff newydd a'r rheiny sy'n gweithio i ni'n barod ar gyfer rhai swyddi sy'n anodd eu llenwi.
Mae cyfleoedd swyddi ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol ar draws ein timau ym Mhowys. Hefyd mae swydd Uwch-weithwyr Cymdeithasol a Phrif Weithiwr Cymdeithasol ar gael yn ein Tîm Gofal Trwodd yng Ngogledd Powys.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet ar faterion Gwasanaethau Plant: "Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r deilliannau gorau i blant, pobl ifanc a theuluoedd Powys. Felly os hoffech chi gael swydd newydd, gyda chyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol byddem wrth ein bodd yn clywed gennych."
Ewch i weld ein tudalen swyddi am fwy o wybodaeth - https://cy.powys.gov.uk/swyddi