Gwaith yn mynd yn ei flaen ar ysgol gynradd newydd y Trallwng

24 Mehefin 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi datgan bod gwaith ar ysgol gynradd newydd yn y Trallwng wedi ailddechrau yn dilyn saib oherwydd y pandemig coronafeirws.
Cafodd y gwaith ar Ysgol Gynradd newydd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng, fydd â lle ar gyfer 360 o ddisgyblion, ei oedi dros dro oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws. Fodd bynnag, mae'r prif gontractwyr wedi ailddechrau'r gwaith yn raddol ar y safle gan ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Ers dyfarnu'r contract i Pave Aways yn gynharach eleni (Ionawr), cwblhawyd y to ac mae'r adeilad bellach yn ddiogel rhag y tywydd. Gosodwyd paneli ffotofoltaig hefyd ar y to.
Mae'r grisiau ar gyfer yr ysgol newydd yn eu lle ac mae muriau cegin yr ysgol wedi'u gorchuddio ag arwynebau hylan. Mae'r gwaith o osod y system awyru mewnol a'r ceblau data bron wedi'i gwblhau ac mae'r haen gyntaf o baent ar rai rhannau o'r ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Dw'i wrth fy modd gyda'r cynnydd mae Pave Aways wedi gwneud yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng.
"Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd a heriol. Rydym wedi gorfod diwygio ein hamserlen oherwydd yr oedi gyda'r gwaith oherwydd y pandemig coronafeirws.
"Mae dal i fod rhai elfennau o ansicrwydd ond rwy'n lled obeithiol y bydd y disgyblion a'r staff addysgu yn gallu symud i'w hysgol newydd ar ddechrau'r flwyddyn nesaf.
"Mae'r ysgol newydd hon yn rhan bwysig o'n strategaeth i drawsnewid addysg ym Mhowys. Pan fydd y gwaith wedi gwblhau bydd yn darparu amgylchedd dysgu a fydd yn galluogi dysgwyr a staff addysgu i ffynnu a chyflawni eu potensial."
Yn wreiddiol, roedd yr ysgol i fod agor i staff a disgyblion ym mis Medi 2020 ond bellach y bwriad yw agor yr ysgol yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Mae'r prosiect o adeiladu'r ysgol yn cael ei ariannu gan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru gyda 50% wedi'i ariannu gan Gyngor Sir Powys. Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth ar y cyd â Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru.
Dywedodd Steven Owen, Rheolwr Cyfarwyddwr Pave Aways: "Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol er gwaethaf gorfod oedi'r gwaith dros dro oherwydd y coronafeirws.
"Mae ein polisiau a rhaglenni ymarferol wedi cael eu haddasu er mwyn sicrhau y gall y gwaith mynd yn ei flaen i orffen y prosiect pwysig hwn tra'n diogelu iechyd a lles ein tîm.
"Mae'r gwaith nawr yn dechrau dwyn ffrwyth a byddwn yn parhau i weithio'n galed i gwblhau'r gwaith adeiladu cyn gynted â phosibl."