Hysbysiad: Grantiau Busnesau newydd ar gael nawr
Darllen mwy

Arweinydd yn diolch o waelod calon i'r Lluoedd Arfog

Image of a soldier saluting

26 Mehefin 2020

Image of a soldier salutingCyn Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 27 Mehefin, mae Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris wedi rhoi 'diolch o waelod calon' i filwyr y genedl.

Dechreuodd y dathliadau ddydd Llun 22 Mehefin gan godi baner Diwrnod y Lluoedd Arfog ar adeiladau a thirnodau enwog ym mhob cwr o'r wlad.  Yng Nghymru, roedd y dathliadau i'w cynnal ar 4 a 5 Gorffennaf yn Sioe Awyr Cymru, ond erbyn hyn bydd yn ddathliad digidol.

Dywedodd y Cynghorydd Harris, sydd hefyd yn Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Powys ac yn siarad ar ran Partneriaeth Ranbarthol Cyfamod Powys: "Hoffwn gymryd y cyfle hwn ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar 27 Mehefin 2020 i gydnabod a rhoi diolch a chefnogaeth o waelod calon i Luoedd Arfog Prydain.

Mae'r Lluoedd Arfog wedi bod yma dros y cyfnod anodd hwn yn genedlaethol ac yma ym Mhowys.  Fel arfer, byddem yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog gyda digwyddiadau ar draws y DU, ond yn anffodus ni fydd hyn yn digwydd eleni.

Fel arfer, byddai Partneriaeth y Cyfamod yn paratoi at Sioe Filwrol Aberhonddu yn Ysgol Frwydro'r Milwyr Troed sy'n dod â phersonél milwrol a'r gymuned yma ym Mhowys at ei gilydd.  Gobeithio y gallwn gwrdd eto yn 2021.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu