Cymerwch rhan - Prynu Lleol Powys
Nod ymgyrch #PrynuLleolPowysCyngor Sir Powys fydd hyrwyddo:
- y siopau traddodiadol sydd i'w gweld ar ein stryd fawr neu'r cymunedau llai o faint sydd un ai ar agor nawr neu a fydd yn agor wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio;
- busnesau sydd â phresenoldeb ar-lein neu wefan fel bod cwsmeriaid yn gallu archebu nwyddau a fydd un ai'n cyrraedd stepen y drws neu bydd modd eu casglu yn ystod y mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Addewid #PrynuLleolPowysRwy'n addo : |
I fod yn rhan o'r ymgyrch hwn, rydym yn gofyn i drigolion Powys rannu a hoffi'r negeseuon #PrynuLleolPowysar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram ac i ddefnyddio'r hashnod wrth rannu eu cynnwys eu hunain ar-lein am fusnesau lleol.
Gallant hyd yn oed rhoi gwybod i ni pam fod cefnogi busnesau lleol yn bwysig iddyn nhw - anfonwch lun ac ychydig o linellau at comms@powys.gov.uk