Sut i ddefnyddio Llyfrgell Plant Cymru

Dilynwch y camau syml yma drwy ap neu borwr gwe RBdigital i roi mynediad diogel i'ch plentyn i'r holl gomics a chylchgronau addas i'r oedran.

 

Ap RBdigital

Agorwch ap RBdigital a chliciwch ar Register now

Dechreuwch deipio "Wales Children's Library" a chliciwch ar Create Account

Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell, dewiswch enw defnyddiwr, cyfrinair cofiadwy ac ychydig fanylion personol ac wedyn cliciwch ar Register

I chwilio am gomics plant, cliciwch ar yr eicon chwyddwydr yn y gornel dde uchaf

Dewiswch Comics

Arlein

I ddarllen arlein yn eich porwr, ewch i  https://waleschildren.rbdigitalglobal.com a chliciwch ar Register yn y gornel dde uchaf

Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell, dewiswch enw defnyddiwr, cyfrinair cofiadwy ac ychydig fanylion personol ac wedyn cliciwch ar Register

I chwilio am gomics plant, cliciwch ar yr eicon chwyddwydr yn y gornel dde uchaf

Dewiswch Comics

Gallwch wneud chwiliad mwy penodol drwy ddefnyddio Advanced Search

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu