Adroddiad am effaith COVID-19 wedi'i drafod

3 Gorffennaf 2020
Cafodd ei gadarnhau bod effaith y Coronafeirws ar Bowys wedi cael ei drafod gan Gabinet y cyngor sir.
Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr ar effaith cychwynnol y pandemig ar breswylwyr, cymunedau, economi'r sir a'r cyngor sir i'r Cabinet a bydd nawr yn cael ei rannu gyda phartneriaid.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Rydym yn gwybod bod COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar bob agwedd o les cymdeithasol ac economaidd y sir. Mae'r adroddiad yn archwilio'r effaith ar feysydd gweithredu allweddol mewn manylder a bydd yn hanfodol ar gyfer ein gwaith cynllunio ar gyfer adferiad.
"Mae'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y tri mis cyntaf o'r pandemig yn dywyll iawn, ac mae preswylwyr, busnesau, cymunedau a'r cyngor sir wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol a bydd yr ôl-effeithiau yn cael eu teimlo gan bawb am nifer o flynyddoedd i ddod.
"Mae'r adroddiad 'Deall Effaith COVID-19 ym Mhowys' yn nodi'r prif feysydd gweithredu, yr effaith sydd wedi'i deimlo hyd yma ac ymateb y cyngor sir. Bydd y goleuni sy'n cael ei daflu gan yr adolygiad effaith yn bwysig er mwyn cynllunio ein hadferiad a bydd yn hanfodol er mwyn lobïo Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol parhaus."
Bydd yr asesiad effaith yn cael ei anfon i bob cynghorydd, Llywodraeth Cymru, CLlLC, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddfa Archwilio Cymru er gwybodaeth ar ddydd Llun (6 Gorffennaf).
Prif Ganfyddiadau
- Cymorth Busnes - £46.6m wedi'i dalu i 4,020 o fusnesau (ar 11 Mehefin - yr ail uchaf yng Nghymru)
- Cyflogaeth - 23% y cant o weithlu'r sir wedi'u rhoi ar ffyrlo (13,100)
- Cynnydd o 156% = 2,225 mewn diweithdra
- Gwasanaethau bwyd a llety - cynnyrch domestig gros o 92%
- Bron i 400 o wirfoddolwyr wedi'u recriwtio
- Cysylltwyd â dros 5,000 o drigolion bregus
- Sefydlwyd 16 o ganolfannau gofal plant gyda dros 300 o ddisgyblion yn mynychu
- 881 o ddyfeisiadau TG wedi'u dosbarthu i helpu disgyblion i gael mynediad i ddysgu
- 14% (290) o ddisgyblion ychwanegol yn derbyn prydau bwyd am ddim
- 600 o bobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref - 300% yn ystod y cyfnod prysuraf
- Y cyngor yn rhagweld diffyg o £16m o ganlyniad i'r Coronafeirws
- 201 o staff y cyngor ar ffyrlo
- Y rhan fwyaf o staff yn gweithio gartref
- 1,100% o gynnydd yn y defnydd o'r rhwydwaith
- 634% o gynnydd mewn cyfarfodydd ar-lein
- 18% o ostyngiad mewn negeseuon e-bost
- 162K o ostyngiad mewn milltiroedd busnes y cyngor ym mis Mai