Canmol y Gwasanaeth Cofrestru

8 Gorffennaf 2020
Mae'r corff llywodraethu cenedlaethol yn ei adolygiad blynyddol, wedi canmol perfformiad Gwasanaeth Cofrestru Cyngor Sir Powys wrth ymateb i'r COVID-19.
Cafodd gwasanaeth Powys ei ganmol gan Uned Gydymffurfio a Pherfformiad y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol am ragori ar y targedau perfformiad yn ystod 2019/20 ac wrth ymateb i bwysau argyfwng y Coronafeirws.
Wrth ganmol gwasanaeth y cyngor yn yr arolwg, dywedodd yr uned berfformiad: "Mae'n hynod braf cael nodi eich perfformiad rhagorol yn ystod 2019/20 gan ragori ar bob targed perfformiad o ran cael apwyntiad (100%) ac amser cofrestru - genedigaethau 100%, marw-enedigaethau 100% a Thystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth (MCCD) 91%.
"Rydym yn cydnabod fod y defnydd parhaus o fonitro perfformiad dyddiol a dadansoddi data cysylltiedig; gwaith rheoli dyddiaduron a gwaith cynllunio tymhorol, ac ar yr un pryd yn ymgysylltu'n llwyr gyda rhanddeiliaid cymunedol, a gwella lefelau mynediad i'r cwsmer, wedi cael effaith bositif o 4% ar MCCD gan arwain at y gwasanaeth yn rhagori ar dargedau perfformiad allweddol."
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar Lywodraethu ac Ymgysylltu Corfforaethol y Cynghorydd Graham Breeze: "Rwy'n falch dros ben gyda gwaith rhagorol y gwasanaeth dros gyfnod anodd iawn. Byddai cyrraedd targedau o 100 y cant dros unrhyw gyfnod yn achos i ddathlu, ond mae gwneud hynny yn ystod pandemig yn wych.
"Bydd y gwasanaeth, ynghyd â gweddill y cyngor, yn wynebu mwy o bwysau wrth i ni symud i gyfnod o wella o'r pandemig, ond rwy'n hyderus y byddan nhw'n ymateb i'r her yn hollol broffesiynol. Rwy'n eu llongyfarch am eu gwaith."