Cynllunio ymlaen llaw ac ymweld â Phowys yn ddiogel

9 Gorffenaf 2020
Gyda'r cyfyngiadau teithio wedi'u codi yng Nghymru ac atyniadau awyr agored yn ailagor, mae Cyngor Sir Powys yn gofyn i bobl i gynllunio ymlaen llaw yn ofalus ac ymweld â Phowys yn ddiogel.
Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a chynnal pellter cymdeithasol wrth iddyn nhw ymweld â mannau twristiaeth fwyaf poblogaidd Powys.
O'r 6ed Gorffennaf, nid oes unrhyw gyfyngiadau teithio ac mae nifer o atyniadau twristiaeth awyr agored wedi ailagor.
O 11 Gorffennaf, gall busnesau llety hunangynaliol ailagor i ymwelwyr aros dros nos. Disgwylir i rai busnesau lletygarwch, megis bwytai, bariau a chaffis ag ardaloedd eistedd yn yr awyr agored ailagor o 13 Gorffennaf.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod Cabinet ar faterion yr Economi, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae'n wych croesawu ymwelwyr i Bowys unwaith eto wrth i'r sir ddechrau ailagor. Mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig iawn i economi Powys, gan gyfrannu dros £1 biliwn yn 2019.
"Mae Powys yn gyrchfan twristiaeth boblogaidd gyda'i golygfeydd godidog, mannau gwyrdd a mannau prydferth ac wrth i'r cyfyngiadau llacio, gallwn ddisgwyl gweld pobl yn dychwelyd i fwynhau'r hyn y mae'r sir yn enwog amdano.
"Wedi dweud hynny, mae Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad go iawn ac mae'n rhaid i ni gadw Powys mor ddiogel ag sy'n bosibl. Rydym yn annog pob ymwelydd i gynllunio eu hymweliad ymlaen llaw oherwydd ni fydd pob cyfleuster ar agor, felly gwnewch yn siwr eich bod wedi gwirio hyn cyn i chi deithio. Cofiwch barchu eraill, diogelwch yr amgylchedd naturiol a mwynhewch yr awyr agored.
"Mae'r rheol dau fetr yn dal i fod mewn grym yng Nghymru, felly cadwch eich pellter a chofiwch i fod yn ystyriol o eraill pan fyddwch chi allan. Edrychwch am arwyddion lleol ac os yw rhywle'n edrych yn rhy brysur, peidiwch â mentro yno.
"Wrth gwrs, rydym eisiau i bobl fwynhau ein cefn gwlad, ond mae'n rhaid ei drin a pharch ac mae hynny'n golygu gwaredu sbwriel yn y ffordd gywir a dilyn y cod cefn gwlad. Mae Powys yn sir hardd ac rydym am wneud yn siwr ei bod yn aros felly.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n busnesau, cymdeithasau twristiaeth, a phartneriaid allweddol megis Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am eu holl ymdrechion i gyflwyno mesurau diogelwch newydd i ddiogelu'r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn.
"Yn ystod y misoedd diwethaf mae pobl wedi dangos pa mor wydn ac arloesol y gallant fod, a cham wrth gam mae Powys yn ailagor ar gyfer busnes."