Prosiect 'Tyfu'r Drenewydd' yn cael y golau gwyrdd

10 Gorffenaf 2020
Mae prosiect seilwaith gwyrdd yn barod i ddechrau yn y Drenewydd ar ôl derbyn hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect 'Tyfu'r Drenewydd' yn llunio rhan o Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio sy'n cefnogi adfywio economaidd a datblygu cynaliadwy ehangach.
Bydd Cyngor Sir Powys, mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn, yn cyflawni'r prosiect yng Nghanol Tref y Drenewydd.
Dywedodd y Cyng James Evans, Aelod Cabinet ar faterion yr Economi, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Dw' i wrth fy modd bod cais y Cyngor am gyllid wedi bod yn llwyddiannus a bod £500,000 o arian grant wedi'i sicrhau ar gyfer y gwaith hwn.
"Ynghyd â chyfraniad Cyngor Sir Powys o £240,000 a chyfraniad arall o £20,000 gan Gyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn, gallwn bellach wireddu ein cynlluniau cyffrous.
"Bydd y ffocws ar adnewyddu pedair ardal yng nghanol y dref: Lôn Gefn a chyffordd y Stryd Fawr, y Stryd Fawr, Sgwâr Hafren, a Maes Parcio Gas Street.
"Bydd y cyllid yn ein galluogi i wneud y gwelliannau sydd eu hangen yn yr ardaloedd hyn megis gosod wyneb newydd, gwella mannau gwyrdd, a gwella draenio.
"Ar ôl ychydig fisoedd hynod anodd yn ymateb i Covid-19 mae hwn yn newyddion calonogol. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailadeiladu'r economi leol a bydd y prosiect hwn yn cefnogi'r amcan ehangach hwnnw. "
Dywedodd cynrychiolydd o Gyngor Tref y Drenewydd: "Mae'r Drenewydd yn adnabyddus fel man gweithgar sy'n cymryd newid a chyfleon gyda'i gilydd ac mae'n ymddangos i fod yn addas o ran maint, lleoliad, sgiliau a gwasanaethau i wneud hynny.
"Mae gennym ni rôl i weithredu ar ran y gymuned ac wrth ddarparu cyllid ychwanegol, mae'r Cyngor Tref yn dangos ei gefnogaeth i'r prosiect Tyfu'r Drenewydd ."
Mae grŵp prosiect, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor sir a'r cyngor tref yn cael ei sefydlu i gydlynu'r gwaith. Disgwylir i 'r broses adeiladu ddechrau tuag at ddiwedd 2020 gyda'r dyddiad cwblhau ym mis Mawrth 2021.
DIWEDD