Dal i fod amser i roi eich barn ar y polisi diwygiedig cludiant o'r cartref i'r ysgol a choleg

13 Gorffennaf 2020
Pythefnos yn unig sydd gan ddysgwyr, eu teuluoedd, ysgolion a'r cyhoedd ehangach i roi eu barn ar Bolisi diwygiedig Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol/Coleg Cyngor Sir Powys.
Lluniwyd y polisi diwygiedig i fod yn llai amwys ac i sicrhau bod y polisi'n cael ei roi ar waith yn gyson.
Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:
- Diddymu'r arfer o ad-dalu dysgwyr rhwng 16 - 19 oed sy'n teithio allan o'r sir i ddysgu.
- Diddymu'r arfer o ddarparu trafnidiaeth yn dilyn newid i fan preswylio arferol i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13.
- Egluro'r broses apelio i'w wneud yn fwy eglur.
Cafodd y polisi ei adolygu ar ôl cymeradwyo strategaeth y cyngor ar drawsnewid addysg ym Mhowys 2020-2030 ym mis Ebrill.
Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r polisi ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, daw'r polisi newydd i rym ym mis Medi 2021.
Gallwch weld y polisi newydd yn https://haveyoursay.powys.gov.uk/cymraeg/ ynghyd â dolen i'r arolwg. I gael copïau papur o'r polisi a'r arolwg, ffoniwch 01597 826277.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar Gludiant i'r Ysgol: "Rydym yn dechrau ar daith drawsnewid gyffrous i sicrhau gwell addysg a sicrhau gwell deilliannau i'n plant.
"Wrth wraidd y gwaith o ddiwygio addysg yw creu'r amgylchedd iawn lle gall ein plant ni ragori.
"Wrth i ni gychwyn ar y daith hon, mae angen i ni sicrhau bod ein polisi ar gludiant o'r cartref i'r ysgol yn cyd-fynd â'r newidiadau hyn er mwyn ategu ein prif amcanion.
"Neilltuwch amser i ddarllen y polisi hwn. Byddem yn croesawu eich sylwadau yn y broses o wneud y polisi hwn yn glir a theg."
I ymateb i'r ymgynghoriad, gallwch:
- Ymateb i'r holiadur ar-lein yn https://haveyoursay.powys.gov.uk/cymraeg/
- Anfon ymateb ysgrifenedig drwy'r post neu e-bost at school.organisation@powys.gov.uk / Tîm Trawsnewid Ysgolion, Gwasanaeth Ysgolion, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG
Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ddydd Llun 27 Gorffennaf.