Digwyddiad gyrfaoedd rhithwir i drafod y diwydiant adeiladu

17 Gorffennaf 2020
Bydd cyfle gan ddisgyblion ym Mhowys i ddysgu am weithio yn y diwydiant adeiladu o ganlyniad i ddigwyddiad gyrfaoedd rhithwir.
Bydd y cwmni adeiladu Pave Aways yn cynnal digwyddiad gyrfaoedd rhithwir ddydd Mawrth 28 Gorffennaf rhwng 9:30am i 12:30pm.
Mae'r cwmni, sydd wedi'i lleoli yn Knockin yn cwblhau'r gwaith ar Ysgol Gynradd newydd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng ar hyn o bryd yn ogystal â dau ddatblygiad tai fforddiadwy yn y Drenewydd a Sarn ar ran Cyngor Sir Powys.
Fel rhan o'r digwyddiad rhithwir, bydd cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y maes adeiladu:
- Trafod yr holl swyddi sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu a chael gwybod yn uniongyrchol am yr hyn sy'n gysylltiedig â'r swyddi hyn a pha gymwysterau bydd eu hangen
- Clywed am brentisiaethau a chyfleoedd profiad gwaith gyda ni
- Cael gwybod am ein rhaglen mentora
- Ystyried unrhyw syniadau busnes yr hoffech chi ddatblygu
- Dysgu am dechnegau ar gyfer cyfweliadau
- Trefnu sesiwn ysgrifennu CV neu gynnal cyfweliadau ffug rhithwir (i'w gynnal ar ddyddiad hwyrach)
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Mae dysgu a sgiliau yn gonglfaen i'n Gweledigaeth 2025 a'n nod yw sicrhau bod ein dysgwyr yn cael cyngor gyrfaol da yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, colegau, prifysgolion a busnesau i wella cyfleoedd gyrfaol.
"Rwy'n ddiolchgar bod Pave Aways wedi trefnu'r digwyddiad gyrfaoedd yma ac rwy'n gobeithio bod y disgyblion wedi cael budd ohono.
Dywedodd Steven Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr: "Mae ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yn elfen allweddol o'n gwaith ac mae mynychu digwyddiadau gyrfaoedd yn rhywbeth rydyn ni'n gwneud yn rheolaidd.
"O dan yr amgylchiadau presennol, cynnal digwyddiad ar-lein oedd y ffordd orau o gynnig mynediad i'n tim i'r myfyrwyr ac i ddysgu o'u profiad uniongyrchol i'r myfyrwyr.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y digwyddiad gyrfaoedd rhithwir anfonwch e-bost i michelle.benjamin@paveaways.co.uk neu ffoniwch 01691 682111.