Cynllun Gwella Corfforaethol

24 Gorffennaf 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i'r dyheadau tymor hir a nodir yn ei Gynllun Gwelliant Corfforaethol Gweledigaeth 2020 er gwaethaf effaith pandemig y Coronafeirws. Dyna fydd hanfod y neges i gynghorwyr gan yr Arweinydd yr wythnos nesaf.
Bydd ail adolygiad blynyddol o Weledigaeth 2025 gyda'i phedair blaenoriaeth allweddol: Yr Economi; Iechyd a Gofal; Dysgu a Sgiliau; a Thrigolion a Chymunedau, yn cael eu cyflwyno i gyfarfod rhithwir o'r cyngor llawn ar 30 Gorffennaf.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Pan wnaeth fy nghabinet a finnau gyflwyno ein Gweledigaeth ddwy flynedd yn ôl aethon ni ati i bennu deugain o nodau uchelgeisiol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr, cymunedau a busnesau Powys. Wrth wneud hyn fe wyddem y byddai heriau yn ein hwynebu.
"Fydden ni byth wedi rhagweld y byddai'r sir a gweddill y wlad yn wynebu pandemig byd eang ddwy flynedd ar ôl i'r prosiect gychwyn gyda'r amgylchiadau mwyaf anodd ers y rhyfel. Er gwaethaf yr heriau hynny mae'r cyngor wedi ymrwymo o hyd i fuddsoddi mewn gwasanaethau, gyrru gwelliannau yn eu blaenau, a gwella deilliannau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau.
"Mae gan ein cynllun amrywiaeth o weithgareddau, rhai yn y tymor byr y gellid eu cyflawni'n ddigon cyflym ac eraill yn y tymor hir a fydd yn cymryd amser inni eu datblygu a'u gweithredu. Ers dechrau ein cynllun yn 2018 rydym wedi gwneud y canlynol:
- Cwblhau pum ysgol Gynradd Newydd yn nalgylch Gwernyfed gan ddilyn ad-drefnu o ddeg i bum ysgol fel rhan o raglen fuddsoddi £25 miliwn
- Datblygu canolfan ddiwylliannol newydd (Y Gaer) yn Aberhonddu lle adnewyddwyd amgueddfa restredig Gradd 2 y dref a chrëwyd llyfrgell newydd
- Gwario bron £100 miliwn gyda busnesau lleol fel rhan o'n menter Punt Powys
- Cefnogi mwy na mil o oedolion gyda Gofal Wedi'i Alluogi gan Dechnoleg
- Sicrhau bod 72 y cant o blant a phobl ifanc y mae angen cymorth arnynt yn cael y gefnogaeth honno trwy wasanaethau Cymorth Cynnar. Mae hyn yn osgoi'r angen i uwchgyfeirio i ymyrraeth statudol
- Cwblhau gwaith adnewyddu Safon Ansawdd Tai Cymru, gan osod cyfarpar newydd yn nhai'r sir yn cynnwys dros 11,000 o gydrannau megis ceginau, systemau gwresogi, drysau, ffenestri a gwelliannau i doeon
- Cefnogi 24 o brentisiaid
- Datblygu ein gwefan, gyda deuddeg o wasanaethau bellach ar gael ar-lein 24-7
- Cyflawni gostyngiadau cost o £22.9 miliwn trwy ddod yn fwy effeithlon
Dywedodd y Prif weithredwr Dr Caroline Turner: "Fy rôl i yw sicrhau bod 'Gweledigaeth 2025' yn greiddiol i waith pob aelod o staff, p'un a ydyn nhw'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, addysg, neu briffyrdd a thrafnidiaeth, i enwi ond ychydig.
"Rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gyflenwi'r deilliannau y mae ein trigolion a'n cymunedau'n eu disgwyl a'u haeddu, yn enwedig ar adeg pan rydym yn wynebu amgylchiadau ariannol heriol. Rydym wedi gwneud arbedion o fwy na £100m yn barod dros y degawd diwethaf. Ond hyd yn oed cyn effaith Covid-19 roedden ni'n ymwybodol bod rhaid i ni ddod o hyd i fwy o arbedion sylweddol i gydbwyso ein cyllideb dros y tair blynedd nesaf, gyda'r disgwyl i hon fod rhwng £30m i £46m. Er mwyn cyflawni hyn rydym yn gwybod bod rhaid i ni drawsnewid y ffordd rydym yn cyflawni gwasanaethau a dyna'r her ar gyfer y blynyddoedd i ddod."