Cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer cynlluniau teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd

27 Gorffennaf 2020
Heddiw, mae £38m o grantiau ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gael i awdurdodau lleol ar draws Cymru ar gyfer cynlluniau teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd.
Mae'r cyllid ychwanegol ar ben y £15.4m sydd eisoes wedi'i ddyrannu i helpu cynghorau i ailddyrannu lle ar y ffordd a chreu amodau diogel ar gyfer cerdded, seiclo a defnyddwyr cludiant cyhoeddus mewn ymateb i Covid 19.
Bydd llawer o'r swm diweddaraf hwn o gyllid sydd ar gael yn mynd tuag at brosiectau sydd eisoes wedi'u dynodi ar draws Cymru, yn cynnwys prosiectau teithio llesol yn y Drenewydd a Llandrindod, llwybr mwy diogel i'r ysgol yn Llanelwedd, ailagor yr hen fynedfa fwaog ym Machynlleth a phrosiect diogelwch ar y ffyrdd yn Libanus.
Mae'r arian sy'n weddill wedi cael ei rannu rhwng pob awdurdod lleol yng Nghymru i'w roi tuag at gynlluniau teithio llesol llai a hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, aelod cabinet ar faterion priffyrdd: "Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sydd ers y cyfyngiadau symud, wedi dewis i wneud eu teithiau lleol bob dydd ar droed neu ar gefn beic. Mae hyn nid yn unig yn newyddion da ar gyfer ein hiechyd a lles, ond mae hefyd yn profi i fod yn llesol iawn i'n hamgylchedd lleol.
"Gyda'n cyfran ni o'r cyllid newydd hwn gan Lywodraeth Cymru, ein nod yw cydweithio gyda chymunedau i gyflwyno llwybrau teithio llesol newydd ac i wella'r rhai sy'n bodoli eisoes a mentrau diogelwch ar y ffyrdd ym mhob cwr o'r sir i roi'hyder i bobl i barhau i gerdded a seiclo."