Atgyweiriadau i Bont Llangynidr

28 Gorffennaf 2020
Mae'r Cyngor Sir wedi dweud y bydd gwaith atgyweirio parhaol yn cael ei wneud ar bont yn ne Powys yr wythnos nesaf.
Bydd Cyngor Sir Powys yn goruchwylio gwaith atgyweirio i Bont Llangynidr a ddifrodwyd gan lifogydd yn gynharach eleni. Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Kaymac Marine & Civil Engineering Ltd.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 3 Awst a disgwylir y bydd y gwaith wedi'i orffen erbyn dydd Gwener, 14 Awst. Bydd y bont ar agor i gerbydau yn ystod y gwaith gyda threfniadau rheoli traffig yn eu lle.
Fodd bynnag, bydd y bont ar gau yn ystod y nos ar 3 a 13 Awst i ganiatau'r contractwr i godi a datgymalu sgaffaldiau yn ddiogel. Bydd y rhain yn eu lle trwy gydol y gwaith. Bydd gwyriad lleol yn gweithredu pan fydd y bont ar gau yn ystod y nos.
Bydd y gwaith yn golygu atgyweirio gwaith cerrig gyda morter calch ar gyfer y rhannau sydd wedi cracio yn ogystal ag ailadeiladu rhan o'r bont a gollwyd yn ystod y llifogydd.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod y Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Bydd y gwaith atgyweirio parhaol hwn yn helpu i ddiogelu a chadw pont Llangynidr.
"Bydd y bont ar agor i draffig tra bod y gwaith atgyweirio'n cael ei wneud ond mae'n angenrheidiol cau'r bont am ddwy noson i sicrhau diogelwch y contractwyr a hefyd i wneud yn siwr nad oes gormod o anghyfleustra i'r rhai sy'n defnyddio'r bont."