Digwyddiad rhithwir cwrdd â'r prynwr

Image of houses being built

28 Gorffennaf 2020

Image of houses being built  Mae contractwr sydd wedi ennill contract gan Gyngor Sir Powys i adeiladu 22 o gartrefi yn cynnal digwyddiad 'rhithwir' cwrdd â'r prynwr ar ddiwedd y wythnos yma.

Bydd J. Harper and Sons yn cynnal digwyddiad rhithwir 'Cwrdd â'r prynwr' ddydd Gwener 31 Gorffennaf rhwng 9.30am tan 12.30 pm.

Enillodd y cwmni gontract i adeiladu 22 o gartrefi yn Ffordd y Gorn, Llanidloes ar ran Cyngor Sir Powys.

Mae'r cwmni am weithio gydag isgontractwyr lleol o ardal Canolbarth Cymru i wneud y gwaith sy'n cynnwys dau dŷ 4 llofft, pedwar tŷ 2 lofft, chwe thŷ 3 llofft, wyth byngalo 2 lofft a dau fyngalo 3 llofft, ynghyd â'r gwaith allanol a'r gwaith draenio cysylltiedig.

Am ragor o wybodaeth neu i archebu slot 10 munud dilynwch y ddolen hon: https://wales.business-events.org.uk/en/events/j-harper-sons-leominster-ltd-virtual-meet-the-buyer-event-gorn-road-llanidloes/

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu