Cam yn nes at ysgol newydd i Neuadd Brynllywarch

28 Gorffennaf 2020
Mae cynlluniau cyffrous am ysgol arbennig newydd gwerth £9.1m yng ngogledd Powys wedi mynd gam yn nes wedi i'r Cabinet roi sêl bendith i gyflwyno cynlluniau i Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol newydd i Ysgol Neuadd Brynllywarch a heddiw (dydd Mawrth 28 Gorffennaf) cymeradwyodd y Cabinet yr Achos Amlinellol Strategol ac Achos Busnes Amlinellol a fydd nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gael eu sêl bendith.
Bydd y cynlluniau buddsoddi'n helpu'r cyngor i gyflwyno ei Strategaeth ar Drawsnewid Addysg ym Mhowys sef strategaeth uchelgeisiol dros ddeng mlynedd a gafodd gymeradwyaeth ym mis Ebrill.
Mae'r ysgol sydd yng Ngheri ger Y Drenewydd, yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 8 - 19 oed sydd ag amrywiaeth o anghenion unigol cymhleth sy'n unigryw i bob dysgwr.
Clywodd y Cabinet y bydd angen gwario £9.1m ar adeiladu'r ysgol newydd, gyda 75% o'r arian yn dod o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Llywodraeth Cymru. Byddai'r cyngor yn ariannu'r 25% sy'n weddill.
Os bydd yn cael sêl bendith, byddai'r buddsoddiad yn arwain at ysgol fro bwrpasol a blaenllaw gyda lle i 72 mewn awyrgylch sy'n briodol i oedran. Byddai hefyd yn cynnwys:
- Cymorth a darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ag ymddygiad heriol, anawsterau emosiynol a chymdeithasol mewn amgylchedd modern ac arloesol
- Mannau dysgu priodol i weithio ar y cwricwlwm cenedlaethol newydd
- Cyfarpar arbenigol gan gynnwys cyfleusterau TG i ategu canlyniadau addysgu a dysgu a fydd yn helpu dysgwyr i wneud yn fawr o'u potensial
- Ystafelloedd dosbarth gyda'r cyfarpar angenrheidiol, gyda lle i gael seibiant, ystafell dawel, cyfleusterau golchi dillad a hylendid ynghyd â lle dysgu unigol yn yr awyr agored.
Bydd grwpiau cymunedol hefyd yn gallu defnyddio'r cyfleusterau tu allan i oriau'r ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg: "Un o'n blaenoriaethau ni yw cael campws arloesol a blaenllaw i'r fro yn lle adeiladau presennol Neuadd Brynllywarch sy'n anaddas ar gyfer y cyfleusterau addysgu a dysgu sydd ei angen i helpu'r disgyblion hyn sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol sylweddol.
"Os bydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r Achosion Busnes Amlinellol a Strategol, byddai hyn yn golygu buddsoddiad anferth i seilwaith ysgolion.
"Fel rhan o'n Gweledigaeth 2025, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o'r radd orau, yn arbennig i'n dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed. Mae ein cynlluniau i Ysgol Neuadd Brynllywarch yn dangos yr ymroddiad hwn."
Dywedodd y Cyng. Kath Roberts-Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Pennaeth, Gavin Randell: "Mae'r ysgol a'r corff llywodraethu yn llwyr gefnogi'r cynlluniau hyn.
"Rydym yn gyffrous am y bwriad i gael ysgol newydd a fydd yn ein galluogi i gefnogi rhai o'r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed ym Mhowys. Mae ein disgyblion yn haeddu'r mynediad at y ddarpariaeth addysgol orau a fydd yn ei dro yn cefnogi'r boblogaeth ehangach o bobl ifanc ym Mhowys yn gyffredinol."