Yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn dangos ymchwil gan Lyfrgell Ystradgynlais

30 Gorffennaf 2020
Mae ymchwil a wnaed gan lyfrgell yn ne Powys ar enwau ar gofeb ryfel leol erbyn hyn yn fyw ar wefan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol.
Roedd canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi ysbrydoli staff yn Llyfrgell Ystradgynlais i ymchwilio i'r enwau ar y gofeb ryfel leol. Dangoswyd y gwaith ymchwil hwn yn wreiddiol ar babiau'r Lleng Brydeinig, ond ar ôl cael sylwadau positif gan y gymuned leol, penderfynodd staff y llyfrgell barhau â'u gwaith ac ymuno â phrosiect dinasyddion yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Bywydau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd defnyddio microffilm o bapur lleol y cyfnod, Llais Llafur, yn ogystal â chymorth dau gwsmer, Val Trevallion a Jon Davies, yn hanfodol wrth helpu i ymchwilio drwy'r adran astudiaethau lleol helaeth. Cafwyd gwybodaeth bellach oddi ar wefannau hel achau ochr yn ochr â chasgliad papurau newydd digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chofnodion Comisiwn Beddi Rhyfel y Gymanwlad ar y meirwon.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet - Pobl Ifanc, Hamdden a Diwylliant: "Mae'r prosiect hwn yn pwysleisio gwerth ein llyfrgelloedd wrth adlewyrchu a chadw hanes a diwylliant eu cymunedau.
"Mae llyfrgelloedd ar draws Powys yn cynnig adnoddau unigryw a staff sy'n awyddus i gefnogi eu cymunedau."
Dywedodd Cydlynydd y Prosiect, Janet Mulready: "Roedd y gwaith ymchwil yn hynod ddiddorol ac yn fuan iawn roedd yn llenwi pob egwyl a min nos! Daeth ffeithiau diddorol iawn i'r amlwg wrth bori trwy hen bapurau newydd.
"Wrth ddatgelu straeon y milwyr unigol, ar adegau roedd yn anodd dal y dagrau nôl."
Mae'r llyfrgell yn gobeithio fod y gymuned yn falch o'i waith wrth sicrhau fod yr enwau sydd ar Gofeb Ryfel Ystradgynlais yn fwy na dim ond enwau ac y bydd eu straeon yn fyw yn y cof.
Mae enwau'r meirwon ar Gofeb Ryfel Ystradgynlais yn un o ychydig dros 8000 o gymunedau ar wefan Bywydau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Gallwch ddarllen eu hanesion yma: https://livesofthefirstworldwar.iwm.org.uk/community/7707
Mae'r gwaith ymchwil yn parhau ac mae'r holl wybodaeth gyfoes ar gael o Lyfrgell Ystradgynlais.