Rhaglen yr Haf yn helpu trigolion y dref i fwynhau'r awyr agored eto

3 Awst 2020
Rhaglen haf Llandrindod - Mae 'Haf Llandrindod' wedi cychwyn gyda rhywbeth cyffrous wrth lyn y dref.
Mae calonnau wedi ymddangos ar y tir i annog pobl nôl i fannau gwyrdd, i fod yng nghwmni eraill a mwynhau'r awyr agored.
Yn ystod y cyfnod hwn o gadw pellter cymdeithasol, efallai y bydd pobl yn ansicr ynghylch sut a ble i dreulio amser yn yr awyr agored gyda'i gilydd a sut i wneud hynny'n ddiogel.
Dywedodd Ellie Turner, Cydlynydd y Gwyliau, gyda Chwarae Maesyfed: "Gall yr ynysu yn sgil y cloi mawr a'r gofyn i gadw pellter cymdeithasol fod yn her wirioneddol i bobl, mae'r gwaith celf hwn yn creu lle hwyliog a chyfeillgar i bobl dreulio amser gyda'i gilydd ac i fwynhau'r awyr agored sydd mor llesol i iechyd a lles pobl.
"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Powys am eu hagwedd bositif tuag at wneud i hyn ddigwydd ac am fod mor gefnogol i'r prosiect cyfan."
Daeth y syniad am y calonnau o waith celf ym Mryste a oedd hefyd yn annog pobl yn ôl i fannau gwyrdd cyhoeddus. Cafodd y prosiect nifer o geisiadau i gynnal picnic gan gadw pellter cymdeithasol ac mae'r calonnau'n rhoi cyfle i bobl wneud hyn eu hunain.
Dywedodd y Cyngh Rachel Powell, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bobl Ifanc a Hamdden: "Mae'n wych gweld prosiect yn cael ei gyflwyno i gefnogi teuluoedd a'r gymuned gyfan yn Llandrindod ar yr adeg anodd hon. Mae cael pobl allan ac yn mwynhau awyr iach, y mannau hardd yr ydym mor lwcus i'w cael yma yn Llandrindod a chwmni ei gilydd mewn ffordd ddiogel a chadarnhaol yn gam positif iawn ar gyfer dyfodol ein bywyd cymunedol."
Mae Haf Llandrindod yn rhan o Brosiect Gweithio Gyda'n Gilydd Llandrindod, sy'n cefnogi teuluoedd sy'n gweithio ac mae'n cael ei redeg gan Severn Wye; ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.