Llongyfarch disgyblion TGAU Powys

20 Awst 2020
Mae'r cyngor sir wedi llongyfarch disgyblion Powys a dderbyniodd eu canlyniadau TGAU heddiw (dydd Iau 20 Awst) am eu llwyddiant.
Mae Cyngor Sir Powys yn falch dros ben clywed fod gymaint o ddisgyblion wedi sicrhau'r canlyniadau sydd eu hangen i symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg, hyfforddiant neu brentisiaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg: "Llongyfarchiadau calonnog i'n disgyblion ar dderbyn eu canlyniadau TGAU.
"Rydym yn hynod falch o lwyddiannau ein dysgwyr, yn arbennig o gofio'r flwyddyn heriol a gythryblus i'w hwynebu eleni.
"Hoffwn hefyd ddiolch i athrawon ac arweinwyr ysgolion am eu gwaith caled am helpu eu disgyblion dros y cyfnod anodd hwn ac am fod mor broffesiynol wrth sicrhau fod pob math o dystiolaeth yn cael eu hystyried wrth ddyfarnu'r graddau terfynol."