Gwaith brys wedi'i gynllunio i atgyweirio difrod a achoswyd gan lifogydd i'r B4355

20 Awst 2020
Bydd gwaith brys i atgyweirio difrod a achoswyd gan fflachlifoedd i strwythurau amrywiol ar y B4355 rhwng Dutlas a Llwyni yn dechrau'n fuan.
Drwy drefnu contractwr yn gyflym, mae'r cyngor wedi asesu'r difrod a achoswyd ac mae wrthi'n paratoi ar gyfer atgyweiriadau brys a chynlluniau dros dro i ailagor y ffordd cyn gynted â phosibl.
"Mae patrwm o dywydd na welwyd mo'i debyg o'r blaen a malurion yn blocio cylfatiau wedi arwain at ddifrodi a dymchwel nifer o strwythurau ar y ffordd rhwng pentrefi Dutlas a Llwyni." Esboniodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod y Cabinet ar faterion Priffyrdd.
"Mae peirianwyr y cyngor ynghyd â'r contractwyr wedi archwilio'r difrod ac maen nhw wrthi'n rhoi cynllun ar waith i wneud atgyweiriadau brys mewn ymdrech i ailagor y ffordd cyn dechrau tymor yr ysgol ar ddechrau mis Medi.
"Efallai y bydd angen cau'r ffyrdd yn yr Hydref er mwyn gwneud rhaglen o waith atgyweirio parhaol ac fe wnawn ein gorau i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl.
"Hoffem ddiolch i'n trigolion am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y mae cau'r ffyrdd hyn yn ei achosi."
Bydd manylion y gwaith atgyweirio parhaol ar gael maes o law. Hoffwn atgoffa preswylwyr i beidio ag anwybyddu rhybuddion bod ffyrdd ar gau ac arwyddion diogelwch. Dylai preswylwyr cynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw a dilyn yr arwyddion ar gyfer y gwyriadau.