Buddsoddi mewn eiddo yn chwech o ganol trefi Canolbarth Cymru

20 Awst 2020
Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i adfywio canol trefi ar draws Canolbarth Cymru yn dal i groesawu ceisiadau.
Cyhoeddwyd manylion Cronfa Fuddsoddi Eiddo Canol Trefi gyntaf ym mis Ebrill 2019 gyda £1.5m sy'n rhan o Gronfa Fuddsoddi Adfywio ehangach. Y bwriad yw ailddefnyddio eiddo masnachol, preswyl a manwerthu gwag.
Bydd chwe thref ar draws Powys a Cheredigion yn gallu elwa o'r cynllun adfywio - Y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu, Llambed, Llandysul a Thregaron.
Mae perchnogion eiddo gwag yn y trefi hyn yn cael eu hannog i wneud cais am y cyllid hwn cyn y dyddiad cau sef 14 Medi.
Mae'r gronfa'n rhan o becyn o gefnogaeth gan gynnwys benthyciadau, buddsoddi preifat a grantiau. Cyn ceisio nawdd, bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ystyried ac wedi methu gydag opsiynau eraill o ran grantiau a benthyciadau.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod Cabinet Powys ar yr Economi: "Mae hwn yn gyfle gwych i ddenu cyllid i adfer eiddo gwag a denu mwy o bobl i ganol ein trefi.
"Mae'r ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol ond mae bron i £200,000 yn weddill ac rydym yn galw eto am brosiectau posibl.
"Mae effeithiau niweidiol Coronafeirws ar yr economi'n golygu ei fod yn bwysicach nawr nag erioed i fachu ar unrhyw gynnig o nawdd ac adfywio canol ein trefi.
"Rydym am weld ein trefi'n datblygu i fod yn llefydd deniadol i fyw, gweithio ac ymweld. Trwy greu mwy o le masnachol a manwerthu o ansawdd da, bydd mwy o bobl yn gallu cyfrannu i'r economi lleol.
"Er mai dim ond chwe thref yn y canolbarth fydd yn gallu elwa o'r gronfa, mae'n anochel y bydd y buddsoddiadau'n ategu ein dyheadau cyffredinol i atgyfnerthu economi Canolbarth Cymru gyfan. Rwy'n edrych ymlaen at weld gwaith ailwampio sylweddol dros y misoedd nesaf."
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Ceredigion ar yr Economi ac Adfywio: "Rydym yn deall y bydd arian adfywio gan Lywodraeth Cymru'n cyrraedd yr ardal hon yn y flwyddyn ariannol nesaf i'w weinyddu fel cynllun grant datblygu eiddo ar draws pob un o drefi'r canolbarth.
"Nid oes unrhyw fanylion eto a bydd angen i Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru benderfynu faint o arian i'w neilltuo ar gyfer y math hwn o gynllun o'i gymharu â buddsoddiadau strategol mwy penodol yn y chwe thref adfywio sydd yn ein barn ni, angen sylw penodol."
Cyngor Sir Powys sy'n rheoli'r gwaith o weinyddu'r rhaglen, ac os oes gennych ddiddordeb, ewch i: www.growinpowys.com/gmw neu www.ceredigion.gov.uk/business/funding-grants/town-centre-property-investment-fund/ am fwy o wybodaeth.