Achosion busnes wedi'u cymeradwyo ar gyfer ysgolion arbennig newydd

24 Awst 2020
Mae adeiladau newydd ar gyfer dwy ysgol arbennig yng ngogledd Powys wedi dod cam yn agosach ar ôl i gynlluniau a gyflwynwyd gan y cyngor sir gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgolion newydd ar gyfer Ysgol Cedewain ac Ysgol Neuadd Brynllywarch a chyflwynodd Achosion Busnes Amlinellol i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r ddau achos wedi'u cymeradwyo gan Banel Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ac mae'n sicrhau buddsoddiad gwerth dros £31m i'r ddwy ysgol arbennig. Mae'r penderfyniad yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog Addysg.
Bydd y cynlluniau buddsoddi yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, strategaeth 10 mlynedd uchelgeisiol a gymeradwywyd yn gynharach eleni (Ebrill).
Bydd 75 y cant o'r cyllid ar gyfer yr ysgolion newydd yn dod o Raglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru gyda'r cyngor yn ariannu'r 25 y cant sy'n weddill.
Fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer Ysgol Cedewain yn y Drenewydd, bydd y cyfleusterau pwrpasol a'r cyfleusterau o'r radd flaenaf yn cynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd a ffisiotherapi a gardd yn ogystal â chaffi cymunedol.
Bydd yr ysgol newydd bwrpasol a blaenllaw hon sydd wedi'i chanolbwyntio ar y gymuned ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch, Ceri gyda 72 o leoedd mewn amgylcheddau priodol i oedran y plant yn cynnwys amgylchedd dysgu modern ac arloesol yn ogystal ag offer arbennig.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg: "Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r ddau Achos Busnes Amlinellol i adeiladu ysgolion newydd ar gyfer Ysgol Cedewain ac Ysgol Neuadd Brynllywarch.
"Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid addysg ym Mhowys ar gyfer ein holl ddysgwyr. Nid yn unig y bydd y cynlluniau hyn yn ein helpu i gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol ond maent hefyd yn elfennau allweddol o ran trawsnewid a gwella'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer ein dysgwyr sy'n agored i niwed.
"Fel rhan o'n Gweledigaeth 2025, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Bydd y gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru yn gwneud hyn yn bosibl a bydd yn golygu buddsoddiad o dros £31m yn ein seilwaith ysgolion."