Disgyblion ysgolion uwchradd i wisgo mygydau wyneb wrth deithio ar gludiant ysgol

28 Awst 2020
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi y bydd gofyn i ddisgyblion ysgolion uwchradd Powys wisgo mygydau wyneb wrth deithio ar gludiant ysgol.
Gwnaeth Cyngor Sir Powys y penderfyniad yn dilyn cyngor a gyhoeddwyd gan Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos yma ar y defnydd o orchuddion wyneb.
Nid yw'r defnydd hwn o fygydau wyneb yn berthnasol i'r disgyblion sydd wedi'u heithrio am resymau meddygol.
Bydd y cyngor hefyd yn darparu dau fwgwd wyneb i bob disgybl ysgol uwchradd sy'n defnyddio cludiant o'r cartref i'r ysgol ac yn ôl, gan gynnwys tacsis.
Yn lle cyntaf bydd gofyn i rieni ddarparu mygydau wyneb i'w plant am y diwrnod cyntaf lle bo modd, hyd nes y byddant yn derbyn y mygydau gan y cyngor.
Fodd bynnag, anogir rhieni a gofalwyr i fynd â'u plentyn/plant eu hunain i'r ysgol lle bynnag y bo'n bosibl, gan ddefnyddio dulliau teithio llesol neu seiclo.
Os oes angen defnyddio car preifat, yna anogir rhieni a gofalwyr i barcio oddi ar safle'r ysgol a defnyddio dulliau teithio llesol i deithio gweddill y pellter.
Ni ddylai disgyblion/myfyrwyr deithio os ydynt:
- Yn dioddef unrhyw symptomau o Covid-19 - peswch newydd a pharhaus, gwres uchel, neu ddiffyg synnwyr blasu ac arogli
- Yn hunan-ynysu o ganlyniad i symptomau o Covid-19 neu'n rhannu aelwyd gyda rhywun â'r symptomau
- Yn glinigol yn eithriadol o agored i niwed.
Dywedodd y Cyng Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar faterion Cludiant Ysgol: "Mae Covid-19 wedi gosod nifer o heriau digynsail i ni ymdopi â nhw o ran y ffordd y byddwn yn darparu cludiant diogel o'r cartref i'r ysgol ac mae diogelwch dysgwyr a staff cludiant wrth wraidd ein penderfyniad.
"Er nad oes modd cadw pellter cymdeithasol ar gludiant o'r cartref i'r ysgol, bydd y mesurau a gyflwynir yn dilyn trafodaethau â darparwyr cludiant yn ysgol yn cadw pawb mor ddiogel â phosibl."
Bydd y Cyngor yn arolygu'r defnydd o orchuddion wyneb yn barhaus.