Canolfan symudol i gynnal profion coronafeirws yn dod i'r Trallwng

3 Medi 2020
Bydd canolfan symudol i gynnal profion coronafeirws yn dod i'r Trallwng am dri diwrnod ar ôl i nifer fechan o achosion positif gael eu cadarnhau yn yr ardal.
Bydd y ganolfan profi wedi'i lleoli yn Neuadd Maldwyn ddydd Gwener 4 a dydd Sadwrn 5 Medi o 8am i 6pm ac ar ddydd Sul 6 Medi o 10am tan 1pm. Nid oes angen trefnu apwyntiad.
Mae preswylwyr o'r Trallwng a'r ardal gyfagos yn cael eu hannog i ddod i gael eu profi os ydyn nhw'n meddwl bod ganddynt symptomau.
Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Rydym yn darparu'r ganolfan brofi hawdd i'w defnyddio yma i'n helpu i ddeall y sefyllfa yn y Trallwng, lle cadarnhawyd nifer fach o achosion yn ardal y Trallwng.
"Os ydych chi'n meddwl bod gennych symptomau - hyd yn oed os ydynt yn rhai ysgafn iawn neu os nad ydych chi'n siwr - ewch i'r ganolfan i gael eich profi."
Dywedodd y Cyngh. James Evans, Aelod y Cabinet ar faterion Gwasanaethau Datblygu Economaidd, Tai a Rheoleiddio: "Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu, ac mae gan bob un ohonom rôl hanfodol o hyd i ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol, i olchi ein dwylo'n rheolaidd ac i osgoi rhannu ceir gyda phobl o aelwydydd eraill.
"Cofiwch i ddod i gael eich profi, hyd yn oed os yw eich symptomau'n rhai ysgafn. Y mwyaf o bobl gyda symptomau sy'n dod i gael eu profi, y mwyaf o achosion y byddwn yn eu darganfod. Yna gellir cyfeirio mwy o bobl i'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, gan roi cyfle i swyddogion olrhain cysylltiadau i gymryd camau i atal lledaeniad y Coronafeirws yn yr ardal."
Mae'r ganolfan yn cael ei chydlynu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.