Neuadd y Farchnad Hanesyddol wedi'i Gwerthu

4 Medi 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau bod Neuadd y Farchnad Hanesyddol Aberhonddu wedi cael ei gwerthu.
Ar ôl derbyn datganiadau o ddiddordeb, penderfynodd y cyngor mai'r dewis oedd yn cael ei ffafrio oedd gwerthu'r eiddo a fyddai yn y pen draw yn gwella rheolaeth yr adeilad ac yn gwireddu ei botensial economaidd llawn er budd masnachwyr y farchnad, preswylwyr a'r gymuned ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Eiddo: "Mae Neuadd y Farchnad yn adeilad pwysig yn Aberhonddu ac mae ei defnydd yn y dyfodol yn bwysig iawn i fasnachwyr y farchnad a phreswylwyr. Roedd yn anodd i'r cyngor sir i fuddsoddi yn ei dyfodol a chytunwyd y byddai gwerthu'r farchnad yn diogelu ei defnydd yn y dyfodol.
"Mae neuadd y farchnad yn ased pwysig ac rydym yn falch dros ben bod prynwr addas gyda hanes o lwyddiant wedi'i ganfod i fuddsoddi a gwella'r adeilad. Dechreuodd y trafodaethau cryn amser yn ôl ond tarfwyd ar y rhain gan y pandemig COVID-19.
"Rydym yn falch bod y gwerthiant wedi'i gwblhau a fydd yn arwain at y buddsoddiad angenrheidiol yn yr adeilad ac yn diogelu ased sydd mor bwysig i'r dref."
Y prynwr yw Sockett Properties Ltd, Henffordd. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Darren Sockett: "Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r masnachwyr presennol i wneud yr adeilad yn llwyddiant masnachol a chymunedol er budd y dref."