Busnesau'n cael eu hannog i gynnal mesurau diogelwch ac i fod yn wyliadwrus

4 Medi 2020
Mae archfarnadoedd a busnesau ym mhob cwr o Bowys yn cael eu hatgoffa i gadw pellter cymdeithasol ac i gymryd pob cam rhesymol i atal lledaeniad y coronafeirws.
Bu cyfnod o oddefgarwch gan fod y cyngor wedi caniatau i fusnesau ledled y sir i ddod i'r arfer â chydymffurfio â gofynion y rheoliadau newydd.
Mae'n ofynnol i fusnesau megis tafarndai, bwytai a siopau trin gwallt ofyn am fanylion cyswllt eu cwsmeriaid at ddibenion olrhain cysylltiadau a fydd yn helpu i atal lledaeniad y feirws.
Disgwylir i'r busnesau hyn gofnodi enw llawn, rhif ffôn a dyddiad ac amser ymweliad cwsmer ac i gadw'r wybodaeth hon yn ddiogel am 21 diwrnod.
Mae archfarchnadoedd wedi bod ar agor drwy gydol y cyfnod gyda gofynion manwl i sicrhau bod pellter cymdeithasol a gofynion eraill yn cael eu bodloni.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Economi, Tai a Rheoleiddio: "Mae'n wych gweld cynifer o fusnesau wedi ailagor, ond mae'n rhaid i ni gadw diogelwch staff, cwsmeriaid a'n cymunedau ar du blaen ein meddyliau.
"Mae busnesau Powys wedi gwneud ymdrech enfawr i gadw cwsmeriaid yn ddiogel ac rwyf am ddiolch yn bersonol iddynt am eu cydweithrediad. Wedi dweud hynny, rydym yn derbyn nifer fach o adroddiadau am safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio ac ni fydd y cyngor yn oedi i ddefnyddio ei bwerau gorfodi i ddosbarthu hysbysiadau gwella a chau os bydd angen.
"Mae ein Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu yn gweithio'n agos gyda'r heddlu a sefydliadau partner eraill ar hyn o bryd ac maent yn monitro lefelau cydymffurfio ym Mhowys yn ofalus.
"Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth am rai problemau honedig mewn archfarchnadoedd ac rydym yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
"Mae safleoedd gorlawn a rhai sydd ddim yn cadw pellter cymdeithasol yn risg fawr i iechyd y cyhoedd oherwydd y perygl o ledaenu Covid-19 ac mae hyn yn annerbyniol. Rydym yn annog busnesau i fod yn wyliadwrus, i gadw pellter cymdeithasol, ac i gofnodi manylion cwsmeriaid fel y gallwn symud ymlaen i oresgyn y feirws hwn gyda'n gilydd.
"Mae'r cyngor yma i helpu, felly os oes angen cymorth ar fusnesau neu os nad ydynt yn siŵr pa ganllawiau sy'n berthnasol iddyn nhw, edrychwch ar y wefan a chysylltwch â ni."
Am help a chyngor, ewch i'r wefan Coronafeirws (COVID-19) - Help ar gyfer busnesau.